Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Casau Cymru
18/05/2007 14:28 #2032
Casau Cymru Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Rwy'n caru pob erw o'r hen Gymru wen, meddai Crwys, er nad oedd hynny'n ddigon iddo fagu'i blant yn Gymry.

Od mai'r beirdd hynny sy'n honni casau'r genedl, neu sy'n deud pethau cas amdani, ydi'r nashis mwya.

Gwerin o ffafrgarwyr meddai Gerallt Lloyd Owen

Dyw'r werin ddim digon o ddynion bois meddai Dafydd Iwan

Gwehilion o boblach ebe THPW (ond a'i dafod yn ei foch mae'n siwr)

ac am Gwenallt, te, wel.....


Credaf ei bod hi'n bryd i ni feirdd yr Annedd brofi ein bod ni gystal nashis a'r rhain drwy gael cywaith sy'n mynegi ein dicter a'n casineb tuag at ein gwlad a'i phobol. Awgrymaf gadwyn o englynion, lle bo'n ofynnol enwi o leiaf ddau le yng Nghymru, gan fynegi casineb, dirmyg, dicter neu wawd tuag atynt neu eu trigolion.

Dyma wthio'r cwch i'r dwr:


Ym Monymaen, annymunol - a fu
'r rhan fwyaf o'r bobol
erioed, ac yng Nghwm Rheidol
mae pawb yn boen, yn boen bol.

Poen bol yw'r fflipin Bala - hen wastraff
fel gwyr Ystrad Rhondda
yw pob bastad o Pesda:
malwod a phlorod a phla.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Perec
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 88
graphgraph
Y diflaniad Y diflaniad
18/05/2007 16:26 #2033
par:Casau Cymru Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Hwre. Bywyd o'r diwedd. Syniad rhagorol. Beth amdani Brif Gopyn?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
sioncyn
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 155
graphgraph
18/05/2007 18:17 #2034
par:Casau Cymru Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
sioncyn a ysgrifennodd:
Beth amdani Brif Gopyn?

Diolch o galon i Perec am ei ysbrydoliaeth. Mae'r cywaith newydd ar waith. Dim ond gobeithio na ddaw'r gwerthwyr viagra i darfu arno!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
yprifgopyn
 
Gweinyddwr
Negeseuon: 167
graphgraph
Cymod a chyflawn we
24/05/2007 08:55 #2037
par:Casau Cymru Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Dydw i ddim yn ramadegydd mawr, ond dwi'n meddwl mai enw benywaidd ydy bodolaeth.

Os felly. mae llinell olaf Troglodeit 'Bodolaeth wlyb diolau' yn ramadegol anghywir. Wrth gwrs, fe fyddai 'bodolaeth wleb ddiolau' yn gynganeddol anghywir!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
sioncyn
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 155
graphgraph
24/05/2007 23:18 #2038
par:Casau Cymru Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Am un mor ifanc, mi'r wyt yn hynod o wybodus, Sioncyn.

Os ca'i awgrymu i'r Troglodeit ac i'r PG, gallesid newid y cwpled olaf i ddarllen fel a ganlyn:

"ac a fynn neb gyfiawnhau
'run enaid o fro Nannau?"
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Perec
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 88
graphgraph
Y diflaniad Y diflaniad
25/05/2007 00:47 #2039
par:Casau Cymru Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Diolch Perec a Sioncyn. Newidiwyd. Gobeithio y bydd y Troglodeit yn maddau'r ymyrraeth.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
yprifgopyn
 
Gweinyddwr
Negeseuon: 167
graphgraph
Cymod a chyflawn we
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed