Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Cystadleuaeth 2: Cywydd yn dechrau 'Heddiw...'
28/01/2005 14:37 #5
Cystadleuaeth 2: Cywydd yn dechrau 'Heddiw...' Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Dylid postio pob ymdrech ar y gystadleuaeth hon i'r adran yma, a'r adran yma'n unig!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
ybalog
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 8
graphgraph
Dydd byr yw pob diwedd byd
30/03/2005 18:09 #342
Cyf:Cystadleuaeth 2: Cywydd yn dechrau 'Heddiw...' Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Heddiw 'rwyf ger y tyddyn
oer a gwag; ei furiau gwyn
yn eiddew dudew i'w do
a Mawrth yn finllym wrtho.
Cofiaf glebar a chwarae
a'r pleser dibryder brau;
cofio'r ardd yn ei harddwch,
y drain hyd gloddiau yn drwch,
alaw wyllt a lili wen
a wal i wal o heulwen.
Ond heddiw trist y tyddyn,
ei fory gwag a'i fur gwyn.
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
caffri
 
01/04/2005 08:33 #344
Cyf:Cystadleuaeth 2: Cywydd yn dechrau 'Heddiw...' Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Heddiw, i’n cyfareddu
Sêr a fydd, nid oes aur fu
Dwayne a Shane yn dwyn y sioe
o glochdar gŵyr glew echdoe

Ein gofid, gwylia Gavin
Orig ar y brig sydd brin
Hanes stŵr a wna stori
Mae 'na bris o fyw mewn bri


Ai cwymp a ddilyn campau
Yn y byd a’r bur hoff bau?
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
JiorjBest
 
01/04/2005 11:22 #345
Cyf:Cystadleuaeth 2: Cywydd yn dechrau 'Heddiw...' Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Heddiw'n wan y mae Anna,
yn brin o'i nicyrs a'i bra
wedi dod a dod drwy'r dydd
a halio'n ddi-gywilydd!

'Fory, awr o edifarhau
a chosi rhwng ei choesau!
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Heddwyn masweddus
 
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed