Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 123
Pwnc: Meddwl y Gynghanedd
26/05/2006 15:24 #1594
par:Meddwl y Gynghanedd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Hanesydd a ysgrifennodd:
Diolch yn fawr iawn i DL Smith am helpu. O'n i'n meddwl mai fi oedd yn dwp.

Dim problem, H.

Dwi di bod yn meddwl am ddarn arall o'r llyfr yng ngolau'r ffaith fod fy nghymar yn astudio barddoniaeth Eingl-Sacsonig ar gwrs MA. Mae Jones (rywle rhwng tt. 30 a 70 dwi'n meddwl, ond wn i ddim yn iawn yn lle) yn honni fod cytseinedd y gynghanedd yn gwneud mwy o synnwyr yn y Gymraeg nac yn Saesneg (rhan o'i ddadl ontelegol eto).

Fel pob pregethwr da, mae gen i dri phwynt am hyn:

Yn gynta, fel llawer mewn iaith a llenyddiaeth, mater o arfer ydi rheolau (e.e. petai'n cynsiaradwyr - a siaradwragedd, y dyddiau yma - wedi penderfynnu na fyddai enwau unigol benywaidd yn treiglo'n feddal ar ol "y", yna fyddai hi ddim yn swnio'n chwith i ddweud "y cath" neu "y chath" neu hyd yn oed "yr ath"), dybiwn i pe buasai barddoni Saesneg wedi dilyn mesurau ES-aidd (yn hytrach na mynd i gyfeiriad mesurau cyfandirol), yna ni fyddai cytseinio mor od a hynny'n Saesneg.

Yn ail, mewn Seasneg fodern (fel yn Ffrangeg), creuir llawer o synnau tebyg drwy gyfuno llafariaid a chytseiniaid annhebyg - cysidrwch y geiriau "caught", "court", "thought" neu "though", "know" a'r ffordd a sgrifennu "shew" hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. (Cysidrwch hefyd faint o lythrennau mewn geiriau Ffrengig sy'n effeithio ar ffordd o ddweud gair heb gael eu hynganu'n unigol). O'i uno gyda'r symud cynharach yn Saesneg at orthograffi safonol a thyfiant print, mae orthograffi Saesneg yn tueddu i guddio'r posibiliadau cynganeddol.

Yn olaf, ac yn bwysicach, mae Jones wedi methu rhywbeth y buasai pum munud yn darllen y cyflwyniad i'r Faber Book of Anglo-Saxon Verse yn esbonio iddo - hynny ydi, roedd gan ar Eingl-Saxoniaid gyfyndrefn o gyflythrennu oedd yn dilyn geiriau acennog mewn hanner llinell (yr uned fydryddol E-S). Y syndod yw (fel cwestiwn yr haneswyr "Pam nad ydi'r Saeson yn siarad Cymraeg?") fod Saenseg wedi peidio gyda'r gyfundrefn hon.

Yma gorffennir y llith cyntaf.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
D. L. Smith
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 6
graphgraph
26/05/2006 22:36 #1595
par:Meddwl y Gynghanedd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Difyr Iawn, D.L.

Mae na dipyn o wahaniaeth rhwng cyflythreniad mewn barddoniaeth Anglo-Saxon a'r gynghanedd. Pastwn yw'r naill, a chyllell gerfio gain yw'r llall.

y rheol mewn Anglo-Saxon yw bod yna 2 hanner-llinell, gwir, ac ym mhob hanner llinell mae 2 guriad. felly mae 4 curiad i gyd, ac mae'r cyflythrennu fel arfer naill ai yn y 3 curiad cyntaf, neu'r 1af a'r 3ydd curiad, neu'r ail a'r trydydd, ond dyw'r patrwm ddim yn rheolaidd o gwbl.

ee, dyma 4 llinell gyntaf "Breuddwyd y Groes" (The Dream of the Rood). Rwyf wedi gosod mewn prif lythrennau print bras y cytseiniaid priodol, a defnyddio "th" yn lle'r "thorn":

Hwaet ic Swefna cyst Secgan wylle

hwaet Me geMaette to Midre nihte

syththan Reordberend Reste wunedon.

Thuhte me thaet ic geSawe Syllicre treow

gwelir patrymau tebyg mewn barddoniaeth gynnar mewn ieithoedd Almaenig eraill.

Yn ol un ddamcaniaeth, y rheswm dros hyn yw mai barddoniaeth lafar fformiwlaig
yw hi yn wreiddiol, hynny yw byddai'r bardd yn datgan (neu berfformio) y stori ar lafar, gan ddefnyddio ymadroddion stoc, oedd yn ffitio i mewn i'r patrymau yma. Byddai rhytm cryf ar y curiadau, a'r cyflythrennu crai yn ycnwanegu at yr effaith ar y gynulleidfa, ond hefyd yn help i'r datgeiniad gofio trywydd y stori a'r gerdd.

Datblygodd y mesurau hyn yn ddiweddarach adeg Saesneg canol, yn llawer mwy cain, gan ddefnyddio llai o ymadroddion stoc (megis yn Piers Plowman) neu gan ychwanegu addurn mydr ac odl (megis yn Gawain and the Grene Knight).

Mae'n bosib iawn fod y gynghanedd wedi cychwyn yn rhywle tebyg, ond mae'n ymddangos i mi fel lleygwr rhonc fod llawer mwy o addurn mewn barddoniaeth Gymraeg gynnar nag y sydd mewn Anglo Saxon - edrychwch ar y Gododdin, Canu Taliesin a Chanu Heledd. Pen drw'r traddodiad addurno yma yw cymhlethdod synhwyrus y gynghanedd.

Ni chyrhaeddodd barddoniaeth Saesneg erioed y cyflwr yma o geinder.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Perec
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 88
graphgraph
Y diflaniad Y diflaniad
30/05/2006 09:51 #1604
par:Meddwl y Gynghanedd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Wedi darllen erthygl Bobi'n Barddas ers postio'r cwestiwn gwreiddiol, ac mae'n debyg ei fod yn crynhoi dadl ei lyfr yn yr erthygl honno. Mae'n rhaid i mi fynd nol i ddarllen y llyfr, a bod yn fwy amyneddgar. Pwynt diddorol am yr acennu.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Hanesydd
 
Disgybl ysbas graddol
Negeseuon: 29
graphgraph
30/05/2006 23:35 #1606
par:Meddwl y Gynghanedd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
D. L. Smith a ysgrifennodd:


Yn gynta, fel llawer mewn iaith a llenyddiaeth, mater o arfer ydi rheolau . . .


O ni'n meddwl mai bwriad Jones yn ei gyflwyniad oedd dadlennu pa mor reddfol oedd y
gynghanedd; er mai cyfres o ddewisiadau ydynt ar yr wyneb, bod y ffurfiau'n eu hanfod yn
codi o'r isymwybod, neu'n fynegiant o'r angen gynhenid i gyfleu'r patrymau 'cosmig', neu
symudiadau'r Absoliwt. Gofyn pam fod y beirdd wedi dewis rhai effeithiau dros rhai eraill, a
pham gochel rhai seiniau ydoedd yn fy marn i. O ni'n cymryd mai ymgais i ddangos pa mor
elfennol ydi'r gynghanedd i lenyddiaeth Cymru oedd hyn. Mynegiant dorfol o rhyw weledigaeth
hanfodol Gymreig.

Er nad o ni'n gallu ei ddilyn yn fanwl gan i mi frysio dros y rhan gynatf, o ni'n meddwl fod ei
gyflwyniad yn wefreiddiol. Ai nol ati pan ga i gyfle.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Gwilym
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 3
graphgraph
31/05/2006 09:00 #1608
par:Meddwl y Gynghanedd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Rwy'n cytuno fod pwyntiau pwysig yn cael eu trafod yn MyG. Os ydi'r gynghanedd yn unigryw i Gymru oherwydd y ffordd mae'r iaith yn cael ei ynganu, mae' werth dilyn y trywydd ymhellach. Fy mhroblem i wrth ddarllen y llyfr oedd y ffordd mae Bobi'n sgwennu. Efallai ei fod yn athrylith, ond bechod nad oes yna olygydd i ffrwyno'r dweud weithiau.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Hanesydd
 
Disgybl ysbas graddol
Negeseuon: 29
graphgraph
31/05/2006 11:31 #1609
par:Meddwl y Gynghanedd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Gwilym a ysgrifennodd:

O ni'n cymryd mai ymgais i ddangos pa mor
elfennol ydi'r gynghanedd i lenyddiaeth Cymru oedd hyn. Mynegiant dorfol o rhyw weledigaeth
hanfodol Gymreig.


Digon teg (A digon teg ydi pwyntiau Perec hefyd.) Drwy feddwl yn fwy am y llyfr, dwi meddwl fy mod yn ei ddeall llai a llai.

Bosib hefyd fod gen i natur sy'n troi'n syth yn erbyn unrhyw ddadl sy'n tueddu i fynnu "rheidrwydd" neu "well-rwydd" unrhyw iaith neu gelfyddyd dros un arall. Dwi'n syspisias iawn o ddadleuon "ontolegol" am gelfyddyd unrhyw lwyth (bydded hwy'n Gymry, Saeson, neu unrhyw beth arall).
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
D. L. Smith
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 6
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 123
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed