Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Cerddoriaeth Robert ap Huw a Cherdd Dafod
06/03/2005 12:33 #211
Cerddoriaeth Robert ap Huw a Cherdd Dafod Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
NEWYDDION SYFRDANOL I BAWB SY'N YMDDIDDORI MEWN CERDD DAFOD

Dylai pawb sy'n ymddiddori mewn Cerdd Dafod glywed cd newydd Paul Dooley, dehongliadau o gerddoriaeth o lawysgrif enwog Ropbert ap Huw, yr hen Gerdd Dant Cymraeg go iawn. Mae CD Paul Dooley'n anhygoel.

Dyma'r llawysgrif hynaf o gerddoriaeth delyn yn y byd. Copiwyd hi gan delynor ifanc o Fon, Robert Ap Huw, ym 1613 pan oedd y traddodiad barddol a cherddorol Cymreig yn chwalu dan bwysau diwylliant newydd.

Cadwyd y traddodiad barddol hyd heddiw ond cafodd y diwylliant cerddorol ei golli. Dim ond yn ddiweddar mae cerddorion a musicologists wedi gallu ei dehongli'n iawn achos mae mewn nodiant unigryw.

Mae'r darnau'n deillio o'r cyfnod cyn 1600, ac yn ymestyn yn ôl i'r canol oesoedd, sef yr hen gerdd dant go iawn. Ai dyma'r miwsig y byddai Dafydd Ap Gwilym yn canu ei gerddi iddo?

http://www.pauldooley.com
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Gorwel Roberts
 
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed