Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 12
Pwnc: America
28/05/2010 16:32 #2352
America Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Efallai mai anghofio'r drafodaeth honno am aceniad 'America' (wedi awdl gadeiriol Twm Morys) fyddai orau. Ond wrth ddarllen Cywydd y Cusan, Dafydd Nanmor, daw rhywun ar draws y llinell hyfryd 'Sunamwn gusan o'i min'. Onid ydi hynna yn torri'r ddadl (angof) honno? Mae aceniad 'sunamwn' yr un fath ag un 'America', ac mae'n iawn ei gynganeddu â gair unsill acennog.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
hysbys
 
Pencerdd
Negeseuon: 224
graphgraph
\'Gin i gorn.\'
\'Tyn dy esgid, ta.\'
\'Ar \'nhin i mae\'r corn. Ga i dynnu \'nhrwsus?\'
29/05/2010 18:01 #2353
par:America Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Mae dy bwynt yn gywir wrth reswm.

Ond nid yw'n un gref ynglyn ag America gan mai Yr Amerig yw'r gair Cymraeg ac mae'r acen ar y goben (amERig). Roedd ceisio ei gyfiawnhau mewn unrhyw fodd wahanol yn hurtrwydd.

Beth petai Twm wedi ceisio defnyddio/cynganeddu Liverpool neu Manchester! Byddai pawb yn galw cywilydd am beidio defnyddio Lerpwl neu Fanceinion. Ond dyna a wnaeth gyda'i America - a mynd ar ei ben i ganol trybini cynganeddol a thorri rheolau'r Eisteddfod yn ei sgil.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Darfodedigaeth
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 46
graphgraph
Darfodedigaeth

Amser, sy’n dadfeilio popeth,
Yma atal di dy law.
29/05/2010 22:05 #2354
par:America Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Wels'i ddim 'mo'r broblem.

Mae America yr un mor dderbyniol ar lafar ers cenedlaethau, mi dybiwn i, ac os ecrychwch yng Ngeiriadur y Brifysgol ar ystyr geiriau sy'n cynnwys y bon Americ- neu Amerig- , cyfieiro at America a wneir yn ddi-eithriad. ee "Americanes - Merch o America" neu "Amerigol - yn perthyn i America", sy'n awgrymu i mi fod yr ysgolheigion a greodd y geiriadur hwnnw, o leiaf, yn ystyried fod America yn dderbyniol yn y Gymraeg.

Felly ar ba awdurdod uwch (ac eithrio o bosib dy ragfarn dy hun) yr wyt ti'n ystyried nad yw America'n dderbyniol?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Perec
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 88
graphgraph
Y diflaniad Y diflaniad
01/06/2010 21:47 #2355
par:America Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Diolch am d'ymateb Perec. Trueni, serch hynny, i dy lith synhwyrol droi'n ymosodiad ad hominum o fewn cromfachau tua diwedd y neges.

Mae dy bwynt yn un teg am wn i ac felly mae'n bosibl mai mater o chwaeth ydyw. Euthum i chwilota mewn hen eiriaduron llwchllyd a chanfod gwahanol bethau ynddynt ynglyn a'r Amerig. Ymddengys fod rhai yn dweud yn union fel ag wyt ti'n awgrymu Perec; ac eraill a ddatgan mai'r Amerig (neu Y Merig) yw'r defnydd llenyddol tra y dylid arddel America wrth drin a thrafod daearyddiaeth cyfandirol. Yn ddifyr iawn nid yw Geiriadur Prifysgol Cymru, er yr holl gyfrolau, yn son am "America", ond trafodir Americaaidd, American, Americanaidd, Americaneiddiaf, Americaneiddio, Americanes, Americaniad, Americanwr, Americeiddiaf, Americeiddio, Americiad, Amerigiad, Amerigaidd, Americaidd, Amerigol.

Ar lefel unigol rhaid cyfaddef mai'r Amerig fydda i'n dweud ac rwy'n ystyried defnydd o'r gair America mewn brawddeg Gymraeg yn ddiogi, ond barn ac nid awdurdod uwch yw hynny. Os oes gair Cymraeg addas pam defnyddio un Saesneg? Yn enwedig felly mewn awdl gynganeddol i'r Eisteddfod Genedlaethol! Nid Lifyrpwl, ond Lerpwl. Clywaf nifer yn cyfeirio at Fryste fel Bristol ar lafar yn y Gymraeg - a fyddai'n iawn defnyddio Bristol mewn awdl Gymraeg i'r Eisteddfod?

Un pwynt arall - tybed a yw'r ffaith syml fod Yr Amerig yn dilyn rheolau'r iaith (e.e. acen ar y goben ac ati) yn awgrymu mai dyma'r gair Cymraeg - tra fod trafferthion cynganeddu America yn awgrymu nad yw'n gynhenid ei natur... jest meddwl. Oes yn enghreifftiau o eiriau naturiol Gymraeg sydd a'r acen ar yr sill cyntaf o dri?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Darfodedigaeth
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 46
graphgraph
Darfodedigaeth

Amser, sy’n dadfeilio popeth,
Yma atal di dy law.
01/06/2010 22:56 #2356
par:America Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
O ddadansoddi rheolau'r gynghanedd fel hyn, mae perygl anghofio am gywair ei hystyr. Yn y pwt hwnnw o gywydd ar ddechrau'r awdl, ceir rhyw fath o ddilorniad neu bortread truenus o fywyd undonog a diwefr y dyn bach "heb ail enw, heb linach".
Mae "America" yn gweddu'r cywair yma, yn enwedig o ystyried cymar y llinell honno: "Mae'r co'n Americana". Mae sain gras i'r gair, a'r sain ei hun yn ychwanegu at yr ystyr, a'r gair "America" efallai yn dwyn syniad o fywyd bas, disylwedd i'r meddwl, tra na fyddai "yr Amerig" yn cyfleu hyn yn y fath fodd.
Go brin hefyd bod rheol Eisteddfodol wedi'i thorri. Mi o'dd nifer o ymadroddion Saesneg ym "mhryddest" Aled Jones Williams yn 2002 (Tjesdyr, Lemon Cheese a jeli a.y.y.b), ac a yw Mererid Hopwood yn torri neu blygu'r rheolau wrth gynnwys pytiau o Saesneg yn "O Ran"? Maen nhw wedi'u dethol i greu effaith.

Ynglyn â geiriau nad ydynt yn eiriau cynhenid, mae ambell rai, fel "eironi", ond fedra i ddim meddwl am air cynhenid Gymraeg.
Fe fyddai hefyd yn ddiddorol gwybod beth yw'r farn am eiriau fel "cenedl" a "rhaeadr". Mae rhai, fel Gerallt, yn eu trin fel geiriau deusill pan fyddant yn cario un o'r prif acenion ac yn parchu'r iaith lafar fel arall, megis y llinell:
"yn y rhyd neidr ydoedd", o'i chymharu â
"gwerth cynnydd yw gwarth cenedl".

Doedd y ddadl wreiddiol yn erbyn Twm ddim yn dal llawer o ddwr ychwaith. Pan fo rhywun yn honni bod
"a'r lês / Ar led hyd y caeau" fel gair cyrch ac ail linell englyn yn anghywir, yna mae gweddill ei ddadl yn colli pob hygrededd.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Tafod y to ifanc
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 18
graphgraph
15/06/2010 23:36 #2357
par:America Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Dyma pam bod llinell Twm Morys yn gywir:

Fel y gwyddoch yn iawn, fel arfer (ond nid fel rheol) mae goben mewn geiriau Cymraeg diacen. Yn achos geiriau fel 'testament' neu grap-eiriau fel 'Galeri' ac 'Academi' nid oes modd dweud os ydyn nhw'n acennog neu'n ddiacen. Dyna reswm arall pam nad oes neb yn llunio englynion na chywyddau i'r naill gwmni na'r llall.

Yr hyn oedd yr hen Gymry'n ei wneud oedd Cymriecio'r geiriau tebig dryw ddweud 'Yr Amerig' sef creu goben amlwg. Dewis rhai eraill, yn enwedig yn y gogledd, oedd dweud 'Americia', hynny ydi rhoi'r pwyslais ar yr –ia. Gair acennog wedyn yw 'Americia'. Felly mae llinell y prifardd hetiog o Drefan yn gwbl gywir.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Y Bilwg
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 69
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 12
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed