Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 123
Pwnc: "R" Wreiddgoll
10/09/2006 09:57 #1833
par:"R" Wreiddgoll Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
All rhywun roi esboniad i mi o'r son am "N Berfeddgoll" ym meirniadaeth Gerallt Lloyd Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni? Nid oes son am y fath beth yn llyfr JMJ, Alan Llwyd, Dewi Emrys, Myrddin ap Dafydd, na Bobi Jones.

Gan gofio fod JMJ wedi rhestru pob goddefiad o'r gorffennol gan gynnwys y rhai gwaharddedig, i ble'r aeth yr "N Berfeddgoll"?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Darfodedigaeth
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 46
graphgraph
Darfodedigaeth

Amser, sy’n dadfeilio popeth,
Yma atal di dy law.
10/09/2006 21:55 #1834
par: r wreiddgoll Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Darfodedigaeth a ysgrifennodd:
All rhywun roi esboniad i mi o'r son am "N Berfeddgoll" ym meirniadaeth Gerallt Lloyd Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni?

Dydw i ddim yn ddigon o guru i ateb dy gwestiwn am yr n berfeddgoll, ond roedd sylw Gerallt am awdl 'Y Byd a'r Betws' wedi tynnu fy sylw innau hefyd - ond nid am yr un rheswm yn hollol.

I mi, nid 'n berfeddgoll' sydd yn y llinell oedd wedi creu penbleth i Gerallt ond ymgais at gynghanedd sain:

'Nawr yn ddu, mor ddu 'i wedd'

h.y. ddu - ddu - wedd
Gyda'r dd yn yr ail ddu yn cario 'mlaen i ateb ei hun!

Yn bersonol, faswn i ddim yn hapus gyda chynghanedd o'r fath, ond rwy'n dyfalu mai dyna oedd gan y bardd ac nid ymgais at adfer hen oddefiad - os goddefiad o gwbl. Wedi'r cwbl, mae'n bosib mai bod yn wamal oedd Gerallt beth bynnag.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
disgybl
 
Pencerdd
Negeseuon: 244
graph
Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill
13/09/2006 19:54 #1846
par:"R" Wreiddgoll Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Oes gan unrhywun esboniad am yr "n berfeddgoll" felly?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Darfodedigaeth
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 46
graphgraph
Darfodedigaeth

Amser, sy’n dadfeilio popeth,
Yma atal di dy law.
29/07/2007 11:14 #2087
par:"R" Wreiddgoll Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Prynwch a darllenwch Anghenion y Gynghanedd gan Alan Llwyd - y fersiwn newydd. Mae pennod fechan ar yr R wreiddgoll a'r R berfeddgoll.

Difyr iawn iawn.

Mae'n dweud fod y cywyddwyr yn arfer gwneud hyn yn aml, ond nid yw'n dweud a yw'n dderbyniol heddiw ai peidio.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Darfodedigaeth
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 46
graphgraph
Darfodedigaeth

Amser, sy’n dadfeilio popeth,
Yma atal di dy law.
05/09/2007 13:47 #2121
par: r wreiddgoll Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
disgybl a ysgrifennodd:

I mi, nid 'n berfeddgoll' sydd yn y llinell oedd wedi creu penbleth i Gerallt ond ymgais at gynghanedd sain:

'Nawr yn ddu, mor ddu 'i wedd'

h.y. ddu - ddu - wedd
Gyda'r dd yn yr ail ddu yn cario 'mlaen i ateb ei hun!


Mae na sôn y gall cytsain fynd yn ddall os neith hi ateb ei hun yn rhy amal.

Cocadwdldw!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Jo Blog y Ceiliog Cw^l
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 71
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 123
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed