Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Cynghanedd ddwbl
16/06/2005 21:09 #718
Cynghanedd ddwbl Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Llinell ddifyr mewn cywydd gorchestol o waith Eirug Salisbury yn Golwg heddiw:

Fel model mewn hysbyseb

Hyd y gwela i, mae 'na gynghanedd ddwbl yma, yn yr ystyr fod 'na gynghanedd sain gyflawn yn y pedwar sillaf cyntaf:

fel model mewn

ac yna cynghanedd lusg gyflawn yn y tri sillaf sy'n weddill, sy'n digwydd bod yn un gair:

hysbyseb

Mae 'na drafodaethau wedi bod o'r blaen yn yr hen seiat am linellau sy'n cynnwys gwahanol gynganeddion o fewn y saith sillaf cyflawn, ond mae hon ychydig yn wahanol. Oes 'na enghreifftiau tebyg gan rywun yn rhywle?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
gavin
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 81
graphgraph
19/08/2005 00:39 #987
par:Cynghanedd ddwbl Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Dyma linell o gywydd Rhisairt Wynne o Glwyd (1845 - 1892) "Ymadael â'r Cymydawg" yn cwyno bod cyfaill hetiog o'r drws nesa' yn dod i'w boenydio bob yn eilddydd.

Dyn hy^n na'i het sydd etto
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Y Bilwg
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 69
graphgraph
19/08/2005 10:10 #990
par:Cynghanedd ddwbl Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
"Mond llond lle o de yn don"

Llinell i hoff ddiod Aneirin Karadog, Te. Tybiaf fod yna rhyw ffurf ar y sain ddwbwl fan hyn gan "mond llond a lle" yn creu cynghanedd sain yn ei hunan a "lle de a don" hefyd yn creu cynghanedd sain. mae'n debyg i Alan Llwyd anwybyddu'r berl o gynghanedd hon a newid y llinell pan ddanfonwyd y gerdd at Barddas slawer dydd.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Llesmeirfardd
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 40
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed