Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: A yw fy englyn yn gywir?
05/08/2007 21:04 #2102
A yw fy englyn yn gywir? Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Cyfansoddais yr englyn hwn i ddathlu penblwydd priodas 'pearl' fy rhieni. A yw'n gywir fel englyn?

Mererid yw'r ymroddiad - priodas
Dau gymar, dau gariad;
Cofio dydd y dedwydd ddyddiad,
a gwir rym yr ymrwymiad.

Gwerthfawrogwn unrhyw sylwadau. A ddylwn roi'r ffidl yn y to?!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Cadi Ffan
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 2
graphgraph
06/08/2007 12:08 #2103
par:A yw fy englyn yn gywir? Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Helo Cadi

O ran y mesur ei hun, mae gennyt ti ddau lithriad:

  1. mae llinell 3 sillaf yn rhy hir

  2. mae'n rhaid i un o'r ddwy odl yn yr esgyll fod yn acennog (e.e. dyddiad/gwlad, brad/ymrwymiad)


O ran y gynghanedd:

  1. does na ddim cynghanedd o gwbl gennyt ti yn y llinell gyntaf

  2. er bod 'dau gymar dau gariad' yn gynghanedd lusg, mae'r gynghanedd yn yr ail linell i fod i ddigwydd rhwng y cyrch a hanner cyntaf yr ail linell (ar ben hynny, dim ond yn y llinell gyntaf a'r drydedd y mae modd cael cynghanedd lusg beth bynnag)

  3. mae llinell 3 yn dderbyniol fel cynghanedd lusg, ond sillaf yn rhy hir

  4. mae llinell 4 bron â bod yn gywir, ond nid yw'r 'g' yn 'gwir' yn cael ei hateb. Byddai 'Yn wir rym i'r ymrwymiad' yn gywir


Paid â rhoi'r ffidil yn y to, ond pryna'r fersiwn newydd o 'Anghenion y Gynghanedd' sydd ar werth nawr!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
gavin
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 81
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed