Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 12
Pwnc: Englyn Cyntaf
23/12/2008 11:53 #2266
Englyn Cyntaf Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Plis fasa rhywun caredig yn cywiro fy englyn cyntaf i mi - baswn yn falch iawn.

Anti Poli

Direidus'n het oedranus - a'i Woodbine
Di-ben yn gysurus,
Lle llawn Brasso'n llnau brasus
Ei chan fel ei than o thus.

(Sori fedrai ddim gwneud i'r to bach weithio)

Un pluen
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Karen
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 9
graphgraph
23/12/2008 22:11 #2267
par:Englyn Cyntaf Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Karen a ysgrifennodd:
Plis fasa rhywun caredig yn cywiro fy englyn cyntaf i mi - baswn yn falch iawn.

Anti Poli

Direidus'n het oedranus - a'i Woodbine
Di-ben yn gysurus,
Lle llawn Brasso'n llnau brasus
Ei chan fel ei than o thus.

Helo Karen. Hyd y gwela i, y mae'r esgyll yn gywir (llinellau 3&4), ond y paladr yn wallus.

Yn llinell 1 mae direidus ac oedranus yn odli ond nid yn cynganeddu. Mae angen rhywbeth fel 'dwyreiniol', 'dyraniad' 'dy rinwedd' i greu cyfatebiaeth gywir gyda oedranus'.

Petai 'Woodbine' yn air acennog, fe fyddai'r ail linell hefyd yn gywir, ond roeddwn i'n cymryd mai gair diacen oedd Woodbine (h.y. y pwyslais ar y sillaf olaf ond un). Os felly, byddai angen gair fel 'adborth' i greu cyfatebiaeth gywir gyda 'Woodbine'.

Gan obeithio fod hyn o help.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
gavin
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 81
graphgraph
26/12/2008 16:04 #2268
par:Englyn Cyntaf Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Helo Gavin, Diolch am ateb fel Sion Corn addysgol! Rwyf yn meddwl am y tro am y cywiriadau. Rydwyf am meistrioli yr Englyn "if it kills me."
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Karen
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 9
graphgraph
27/12/2008 11:12 #2269
par:Englyn Cyntaf Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Aderyn swil'n het oedranus - a'i Woodbine
Di ben draw'n gysurus.

Annwyl Gavin - ydi hwn yn well? Rydwyf ddim eisiau colli y gair" Woodbine," achos dyma roedd Anti Poli yn smocio. Ydi y linell cyntaf yn gwneud "Draws?" Diolch am eich sylw.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Karen
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 9
graphgraph
29/12/2008 11:32 #2270

Dydy 'aderyn' a 'oedranus' ddim yn creu cyfatebiaeth gywir oherwydd bod y patrwm acennu yn wahanol yn y ddau air. h.y. yn aderyn, y patrwm ydy d>rn<

Mae angen gair fel 'hyderus' i greu cyfatebiaeth gywir gyda gair fel 'aderyn' a gair fel 'draenog' i greu cyfatebiaeth gywir gyda gair fel 'oedrannus'.

Dydy 'woodbine' a 'di ben draw' ddim yn gywir am yr un rheswm. Mae angen gair gydag 'db' ar ôl y brif acen i gael cyfatebiaeth gywir e.e. adborth, seidbord!

Gan obeithio fod hyn yn gwneud rhyw sens.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
gavin
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 81
graphgraph
29/12/2008 13:14 #2271
par:Englyn Cyntaf Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Annwyl Gavin,

Ydi pobl yn cael "nervous breakdown," wrth wneud hyn?

Beth am hyn ta?

Aderyn swil'n het hyderus - Woodbine a'r
Wyneb deg ei gwefus.

Diolch am eich trafferth. Rydwyf yn mynd i ddosbarthiadau cyn bo hir eto - fedra'i ddim disgwyl - rydym yn cael chwerthin i ddagra am mistecs.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Karen
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 9
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 12
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed