Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Ateb 'ng'
25/02/2009 17:24 #2283
Ateb 'ng' Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Bwrw 'mhrentisiaeth gan ddefnyddio llyfrau ardderchog Messrs Llwyd ac ap Dafydd ydw i, ond, mae gen i ofn, wedi'r holl amser 'ma, fod 'na dal un neu ddau o betha' dwi'n ansfydlog arnyn nhw ym myd cerdd dafod. Felly...

Fyddai rhywun yn gallu eglurhau imi'r rheolau ynglyn ag ateb/cynganeddu 'ng' os gwelwch yn dda? E.e.:

1) Ydy hi'n gywir ateb 'ng' gyda 'ngh'? (e.e. yng Ngwent + ynghau)

2) I ba raddau y mae ateb 'ng' gyda 'n+g' yn gywir? (e.e. hen gyw + yng Ngwent)

3) Beth am fynd dros y top--ydy ateb fel hyn, h.u. llafariad yn gwahanu'r 'n' a'r 'g', yn dderbyniol byth?: yn ei gwd + yng Ngwent.

4) Tra dwi arni, ac yn gysylltiedig efo'r cwestiwn cynta, gan gymryd bod bardd yn rhyddfrydol yn ei agweddau tuag at ateb 'h', dan ba amgylchiadau y ceir ateb 'n' efo 'nh'? (e.e. fu'n eilio + fy nhelyn)

Diolch o flaen llaw am unrhyw sylwada' a help!

(O.N. Na, does gen i ddim obsesiwn efo Gwent.)
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Pa ryw radio
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 4
graphgraph
****
Dyma gwrlid godidog
I droi nos yn Dir na n'Og...
26/02/2009 21:30 #2284
par:Ateb 'ng' Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Dyma geisio ateb y cwestiynau...

Pa ryw radio a ysgrifennodd:

1) Ydy hi'n gywir ateb 'ng' gyda 'ngh'? (e.e. yng Ngwent + ynghau)

Ydy


2) I ba raddau y mae ateb 'ng' gyda 'n+g' yn gywir? (e.e. hen gyw + yng Ngwent)

Dim o gwbl


3) Beth am fynd dros y top--ydy ateb fel hyn, h.u. llafariad yn gwahanu'r 'n' a'r 'g', yn dderbyniol byth?: yn ei gwd + yng Ngwent.

No we!


4) Tra dwi arni, ac yn gysylltiedig efo'r cwestiwn cynta, gan gymryd bod bardd yn rhyddfrydol yn ei agweddau tuag at ateb 'h', dan ba amgylchiadau y ceir ateb 'n' efo 'nh'? (e.e. fu'n eilio + fy nhelyn)

Dim problem

Gan obeithio fod hyn o ryw help!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
sioncyn
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 155
graphgraph
26/02/2009 22:01 #2285
par:Ateb 'ng' Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Lot fawr o help; diolch iti Sioncyn!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Pa ryw radio
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 4
graphgraph
****
Dyma gwrlid godidog
I droi nos yn Dir na n'Og...
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed