|
Cwestiwn bach ysgafn
|
|
|
Ydi'n iawn odli "dyn" a "gofyn" mewn cynghannedd lusg e.e.
Dyma'r dyn yn gofyn "Pam?"
neu oes rhaid gwneud yn siwr fod y ddwy sillaf yn "ysgafn" e.e.
"Cytun fu teulu'r dyn hwn"
|
|
|
|
|
|
|
par:Cwestiwn bach ysgafn
|
|
|
Dwi'n ofni dy fod wedi camddeall gofynion y gynghanedd lusg boden. Mae'r gynghanedd lusg yn dibynnol ar odl rhwng gair ynghanol y llinell a goben y llinell (h.y. y sillaf olaf ond un)
e.e. Pam wyt ti'n gofyn hynny
Tybed ai'r gynghanedd sain sydd gennyt ti mewn golwg? Mae tair rhan i gynghanedd sain, sef dwy odl yn rhan 1 a 2 a chyseinedd rhwng rhannau 2 a 3.
Byddai modd creu cynganeddion sain yn weddol rhwydd gyda'r geiriau yr wyt ti wedi'u cynnig.
e.e. Mae'r dyn yn gofyn am gweir.
neu Cytûn ydyw'r dyn a'i dad
Gan obeithio fod hyn o help.
|
|
|
|
|
|
|
par:Cwestiwn bach ysgafn
|
|
|
O ie, dyna dwp ynte. Am ryw reswm ro'n i wedi cymryd bod cynghannedd lusg yn gallu diweddu gyda gair unsill, a cheisio wedyn odli canol y llinell efo'r sillaf olaf ond un, ond dwi'n darllen y rheol eto, a gweld na wneith hynny'r tro.
Dioch am dy help sioncyn beth bynnag !
|
|
|
|
|
|
|
par:Cwestiwn bach ysgafn
|
|
|
Yn anffodus tydi Sioncyn ei hun ddim yn hollol sicr o'r rheolau.
Mae'n dweud "Mae'r gynghanedd lusg yn ddibynnol ar odl rhwng gair 'ynghanol y llinell' a 'goben y llinell'". Nid gair 'yng nghanol y llinell' sydd ei angen ond y gair ar yr orffwysfa. Fel arall fyddai hon yn gywir:
Hen ferch fach deg yw Enid (odli 'hen' efo 'Enid' - anghywir)
Mae hon yn iawn:
Merch fach glên ydi Enid ('clên' ar yr orffwysfa yn odli ag 'Enid' - cywir)
Mae llinell Sioncyn ei hun yn anghywir hefyd: 'Pam wyt ti'n gofyn hynny'
Mae o'n nodi beth yw'r odl (gofyn a hynny). Anghywir.
Yn Gymraeg mae 'y' dywyll ac 'y' eglur. 'Y' dywyll yw'r sain a geir gan yr 'y' yn 'llynnoedd', 'cyntaf' a 'mynwes'. Mae 'y' eglur wedyn yn rhoi'r sain a geir yn y geiriau 'dyn', 'sydd' a 'bys', yr un sain a geir gan 'u' yn y geiriau 'llus', 'canu', 'hud'.
Tydi 'y' eglur ddim yn odli ag 'y' dywyll. Yn llinell Sioncyn mae'r gair gofyn yn gorffen gydag 'y' eglur a'r goben yn y gair 'hynn' yn cynnwys 'y' dywyll. Mae'n aghywir, fel mae hon:
Mae'r dyn ar ben y mynydd
Mae'r 'Sun' ar ben y mynydd - mae hon yn iawn ('Sun' sef y comic hwnnw a elwir gan rai yn bapur newydd)
'Pam wyt ti'n gofyn unwaith' - Mae hon yn gywir hefyd.
Sut mae cofio'r gwahaniaeth? Fel hyn. Yn y gair 'tywyll' mae'r 'y' gyntaf yn 'y' dywyll a'r ail yn 'y' eglur. Mae'r 'y' eglur yn rhoi'r un sain â'r 'u' yn 'eglur'.
Ga i fynd yn ôl i gysgu rŵan?
|
|
|
|
|
|
|
par:Cwestiwn bach ysgafn
|
|
|
Diolch am yr eglurhad, Bilwg.
Wrth ddarllen ychydig mwy ( o lyfr Alan Llwyd) dwi'n gweld ei bod yn bosib i'r odl gyntaf fod ar y sillaf gyntaf hefyd e.e.
Af at y doctor Dafydd. (Lewys Glyn Cothi)
Os nad wyf i wedi camddarllen y rheol, does dim son am yr orffwysfa gyda'r math hwn o gynghannedd, dim ond fod rhaid i'r "sillaf olaf ond un odli a sillaf olaf gair blaenorol yng nghorff y llinell", (a hefyd fod y llinell yn diweddu'n lluosillafog-ddiacen).
Yn yr enghraifft uchod, gallai'r orffwysfa/saib naturiol unai ddisgyn ar "doctor" (os byddwn i'n sgwrsio a'm ffrind "Dafydd"), neu ar "Af", (os mai enw'r doctor yw "Dafydd") . Oes unrhyw wahaniaeth o safbwynt cywirdeb y gynghannedd?
|
|
|
|
|
|
|
par:Cwestiwn bach ysgafn
|
|
|
Mae Alan Llwyd yn niwlog iawn yn dweud bod rhaid i'r "sillaf olaf ond un odli â sillaf olaf gair blaenorol yng nghorff y llinell". Gwell fyddai bod rhaid i "sillaf y goben odli â sillaf olaf gair blaenorol yng nghorff y llinell sydd ar yr orffwysfa".
Mae'n rhaid i'r gair sy'n oldi â'r goben syrthio ar yr orffwysfa. Dyna ble mae'r pwyslais ac felly mae'r glust yn clywed y sain hwnnw uchlaw unrhyw sain arall yn rhan gyntaf y llinell. Y lle nesaf pwysig ydi'r goben ac mae'r glust yn clywed yr un swn yn y fan honno (sef yr odl) ac yn dotio a chyffroi. Dyna yw cynghanedd - cyffroi'r glust.
Mae llinell Lewis Glyn Cothi yn iawn. Achos mae o'n pwysleisio ei fod am fynd at y doctor. Mae'n cadarnhau ei fod am fynd yn hytrach na pheidio ä mynd. Erbyn heddiw rydan ni'n ynganu'r gair 'at' yn syth ar ôl y gair 'af'. Mae Lewis yn dweud ei fwriad, yn dweud at bwy y mae am fynd.
Mae bob un o'r cynganeddion yn ymwneud â chyfateb cytseiniaid neu odl ar orffwysfa, yn cynnwys y gynghanedd lusg.
Gyda llaw chei di ddim defnyddio geiriau 'gwan' ar yr orffwysfa e.e
Mae'r lluniau ar y pared
Mae'r pysgod yn y llynnoedd
Does byth orffwys ar eiriau gwan fel 'yn'. 'ar', 'i', 'o' ac yn y blaen.
Os wyt ti yn y Brifwyl tyrd draw am sgwrs - mi fydda i'n hawdd fy nabod - clogyn laes borffor (oni bai ei bod yn heulog).
|
|
|
|
|
|
|