Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Cerdd am rygbi
23/01/2007 12:22 #1952
Cerdd am rygbi Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Dwi'n tybio fy mod wedi darllen cywydd rywdro am Jonah Lomu neu'r Crysau Duon - ond does gen i ddim syniad yn lle na phwy oedd yr awdur. Tybed allai rhywun fy helpu? Angen cerdd i gydfynd a'r Haka mewn cyflwyniad llafar yn yr ysgol ydw i. Gwerthfawrogwn pob awgrym. Diolch
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Gwyn
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 1
graphgraph
24/01/2007 14:58 #1953
par:Cerdd am rygbi Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Wedi bod yn crafu 'mhen a chrafu pen Charlotte ond wedi ffaelu â chofio am unrhyw gerdd benodol am y crysau duon, ond mae'n bosib fod Dic Jones wedi gwneud rhywbeth yn Golwg. Efallai y byddai'n werth edrych ar y ddwy gyfrol o gerddi sy'n cynnwys ei stwff i Golwg. Gan Dic hefyd y mae'r gerdd rygbi fwyaf adnabyddus efallai sef cywydd 'Parc yr Arfau' a enillodd gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978.

Wrth feddwl am y beirdd iau, Ceri Wyn ac Emyr Lewis ydy'r ddau rygbi-fairdd amlwg. Fe ysgrifennodd y ddau ohonyn nhw gerdd gynganeddol hirfaith ar y cyd ar gyfer rhyw eisteddfod neu'i gilydd rai blynyddoedd yn ôl. Fe ymddangosodd yn Barddas rwy'n credu.

Ond rwy'n siwr fod gan y ddau gerddi rygbiaidd eraill hefyd.

Sori 'mod i'n ffaelu helpu mwy.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
gavin
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 81
graphgraph
24/01/2007 17:41 #1954
par:Cerdd am rygbi Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Rygbi? Pah!

Ond mae gan Tudur Hallam rhyw gywydd neu ddau sy'n werth eu hystyried, ond...

Llanelli yw'r cyd-destun dwi'n credu.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Darfodedigaeth
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 46
graphgraph
Darfodedigaeth

Amser, sy’n dadfeilio popeth,
Yma atal di dy law.
26/01/2007 15:55 #1957
par:Cerdd am rygbi Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Mae gan Myrddin ap Dafydd chwip o gywydd i Ieuan Evans ac mae gan Dic Jones gywydd yn sôn am gêm rygbi rhwng y Cymry a'r hen elyn.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Y Bilwg
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 69
graphgraph
07/02/2007 16:04 #1960
par:Cerdd am rygbi Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Adroddodd Ceri Wyn gywydd bendigedig ar y testun 'rygbi' yng Ngwyl Gynganeddu Ty Newydd, Tachwedd 2005. Mae gen i gof i mi ei weld yn Barddas, neu rywle, wedi hynny. Os rwy'n cofio'n iawn, y llinell ola oedd "gêm i bawb, gêm y bobol", ac roedd y cywydd drwyddo'n defnyddio cymeriad geiriol ar y gair 'gêm'.
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Jo Blog y Ceiliog Cw^l
 
07/02/2007 22:27 #1964
par:Cerdd am rygbi Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Cywydd arall cachboeth i John 'Boncath' Davies yn Golwg sbel nol - llinell orau - 'a chefen fel talcen ty' - biiwwt! Nai gael 'golwg' (eh? eh?) yn yr archifdy h.y. y silff ar bwys y bog lan llofft i weld allai ddod o hyd iddo.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Ffinnant
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 59
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed