Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Deio ap Ieuan Ddu
21/04/2006 16:42 #1536
Deio ap Ieuan Ddu Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
All rhywun fy nghyfeiro at gywydd Deio ap Ieuan Ddu yn gofyn am darw gan Siôn ap Rhys o Lyn Nedd os gwelwch yn dda? Yn hon y mae'r llinell enwog 'Y ddraig goch ddyry cychwyn'. So^n mae o am Siaspar Tudur ar o^l i'r Tuduriaid fabwysiadu'r ddraig fel symbol brenhinol. Roedd yn ei flodau rhwng 1460 ac 1480. Yr unig gyfeiriadaeth ar y we yw Gorchestion Beirdd Cymru, 1773, 168-88 a Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau, 1928. Rwy'n amau os yw'r rhain ar gael yn fy llyfrgell leol.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Hanesydd
 
Disgybl ysbas graddol
Negeseuon: 29
graphgraph
21/05/2006 22:18 #1576
par:Deio ap Ieuan Ddu Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Ymddiheuriadau mawr am yr oedi - braidd yn ara' deg ydy'r teipio

Dyma sut y cafodd y cywydd ei gyhoeddi yn Gorchestion Beirdd Cymru. Tybed faint sy'n sylweddoli mai Tarw Coch o Lyn Nedd oedd sbardun y llinell enwog?

CYWYDD I OFYN TARW AC ANER

I Sion ap Rhys

O WAITH DEIO AP IEUAN DU

Ewch feirdd o Ddinbych i Fôn,
Iach rydd, lle mae i'wch roddion;
I ddiolch yr af ddwyoes,
Y tarw rhudd at ŵr a'i rhoes,
Ei seg mawl, seigiau melys,
Sion, wyneb rhoddion, ap Rhys,
Rhys galon Emrys, Glyn Nedd,
Dwg enw Deau a Gwynedd;
Dwg Sion, dynion di anhael
Arf Rhys, ŵyr i Ifor Hael.
Tri fflowr de lis, gedwis gwart,
Maes hyder grymus Edwart;
Deall y tri blodeuyn,
Maes o ddu, mwya sydd yn';
Collwyn, a'u dỳg yn Ngwynedd,
0 Lŷn uwch hyd ymlaen Nedd;
Ac Einion yn Morganwg
A'i ŵyrion dewrion a'u dwg.

Tydi Sion, tad y synnwyr,
Dal dy gof, dwy wlad a'i gŵyr;
A ddyly Dolwyddelan,
Anrhaith, a Chricciaith eich rhan;
Ac aerwy gwâr, y gŵr gwych
Syr Howel, ys arhöych :
Mae bwyall aur y mab llwyd,
Dyledog i'w dal ydwyd.
Eirias draw, a roist erof
Eidion a gad o dân gof;
Gŵyr ei bardwn, gwar bwrdais,
Egroes byw ei groes a'i bais;
Dwg yr eidion da gwridog,
Dau newydd iawn dannedd ôg;
Y tarw cu o'r tir y cad
A wisg eurliw ysgarlad:
Cyrn mal yn dëyrn y dwg
Mawr gwynion yn Morganwg.
Gwalltgrych yr edrych lle'r el,
Golwg carw dan glog cwrel;
Llais y gloch lluosog len,
Lliw'r gwydr, Iarll ar gadwen;
A'i ruban is yr abid,
Uwch na'r aur, iach yn ei wrid;
A'i flew yn glyd fal yn glôg
Sinobl ar fy myswynog.
Marchog siderog doriad,
Urddol yw ar y ddwy wlad;
Mae'n rhoi ei wddw mewn rhuddaur,
Megys o'i flaen, mwg sofl aur.
Rhoi aner, un rhieni,
Y tarw a wnaeth i'n tir ni:
Hoffi ei chwrsi, o chaid,
Hi a'i gŵr, dan hug euraid.
Lluniaidd ysgub haidd o'r pen,
Llun abid, llo wynebwen.
Dreigiau ŷnt o rywogaeth
I ennill in' loi a llaeth.
Y Ddraig Goch ddyry cychwyn,
A'r ucha'r llall, ar ochr llwyn;
Yn hael ni bu yn helw neb
Eidionau un odineb.
Tarw Sion, diau mewn trais aeth,
A'i wraig o'r un rhywogaeth;
Llyma haf lliw Mehefin,
A lloi a gaf a lliw gwin.
Dy eidion nid â i adwedd,
A'i loi yn ôl o Lyn Nedd;
Nes bod yn un nod dan iau
Lloi gant un lliw ag yntau.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
yprifgopyn
 
Gweinyddwr
Negeseuon: 167
graphgraph
Cymod a chyflawn we
25/05/2006 09:43 #1583
par:Deio ap Ieuan Ddu Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Diolch yn dalpe Prif Gopyn, ac ymddiheuriadau na allaf sgwennu cywydd o fawl i ti. Bydd y wybodaeth yma o ddiddordeb mawr i'ng nghyfaill sy'n ymchwilio hanes ein baner.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Hanesydd
 
Disgybl ysbas graddol
Negeseuon: 29
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed