Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: MapD yn haeddu chwip din?
09/02/2005 18:36 #67
MapD yn haeddu chwip din? Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Yn ol gwefan newyddion y BBC mae cerdd gan y prifardd Myrddin ap Dafydd, sydd wedi ei ddewis yn ddarn prawf ar gyfer eisteddfod yr Urdd, wedi pechu athrawes gan ei fod yn cynwys y gair "anweddus" tin!

news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4240000/n..._4248800/4248889.stm

Unrhyw un yn cytuno a'r athrawes?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Diglem
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 5
graphgraph
13/02/2005 18:15 #84
Cyf:MapD yn haeddu chwip din? Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
A dyma hi'r gerdd:

Chei di ddim byw mewn tre;
Chei di ddim agor siop;
Chei di ddim prynu tir
Na mynd yn gop;
Dwyt ti ddim yn bodoli;
Sgen ti'm llais i'w godi,
Ond gwaeth na hyn, fy mhlentyn gwyn:
Chei di ddim odli.

Chei di ddim deud y dylid dal brenin
Y Saeson a'i roi mewn cawl cennin
A'i ferwi, a'i ferwi
Nes fod o'n drewi:
Achos chei di ddim odli.

Chei di ddim deud fod Dafydd Gam
Yn llinyn trôns ac yn fabi mam,
Na llenwi'i goleri
Efo cacamwnci:
Achos chei di ddim odli.

Chei di ddim deud y rhown Gymru ar dân,
Y bydd creigiau'n atseinio ein cân
Cyn y talwn drethi
I gastellwyr Cydweli:
Achos mae hynny'n odli.

Chei di ddim deud fod yr Arglwydd Grey
Yn fochyn barus a'i bod hi'n O Cé
Llenwi'i dîn efo paraffîn
A'i losgi:
Achos chei di ddim odli.

Chei di ddim canu'n gaeth am ddod yn rhydd
Na darogan y daw'n ei ôl rhyw ddydd
Na cheisio llonni'r
Rhai sy'n digalonni:
Achos chei di ddim odli.

Ond cei sibrwd, dan dy wynt, wysg cefn dy law:
Owain, cannwyll brwydr; cist breuddwydion ddoe;
Fflach yn y drych ar wlad yfory,
Achos does 'na ddim odl yn hynny.

Dim ond barddoniaeth.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
disgybl
 
Pencerdd
Negeseuon: 244
graph
Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill
02/03/2005 15:00 #176
Cyf:MapD yn haeddu chwip din? Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
A dyma ddatganiad gan Myrddin ei hun sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan yr Urdd:

Anodd coelio hynny heddiw, ond chwe chan mlynedd yn ôl - adeg llywodraeth y
cestyll yng Nghymru - doedd gan y Cymry ddim hawl i brynu tai mewn trefi fel
Conwy, Caerdydd, Cydweli, Caernarfon a llawer iawn o rai eraill. Doedd
ganddyn nhw ddim hawl i agor siop na chael swydd yn y trefi hyn; doeddan nhw
ddim yn cael cyfarfod yn griw mawr na chario arfau na gweinyddu cyfraith na
chwaith yn cael defnyddio'r Gymraeg yn y trefi. Mewn gwirionedd, doedd
ganddyn nhw ddim hawliau o gwbwl ­ roeddan nhw yn gaethweision i'r Norman
a'r Sais yn eu gwlad nhw eu hunain.

Yr unig arfau oedd ganddyn nhw oedd geiriau. Roeddan nhw'n medru sgwennu
cerddi a chanu caneuon yn protestio, yn gwneud sbort am bennau'r gormeswyr,
yn breuddwydio am gael bod yn bobl rydd unwaith eto. Ond wedyn pasiwyd deddf
yn atal y Cymry rhag gwrando ar y beirdd a'r cantorion ­ am fod hynny yn
cynhyrfu'r dyfroedd. Mewn geiriau eraill, cafodd y Cymry eu rhwystro rhag
odli hyd yn oed i godi llais yn erbyn eu cyflwr truenus.

Yna, daeth Owain Glyndwr ­ yr arweinydd a unodd Cymru gyfan i godi yn erbyn
y trefi a'r cestyll gormesol. Am flynyddoedd, ymosododd y Cymry ar bob un
castell a thref Normanaidd yng Nghymru, gan feddiannu rhai a llosgi eraill.
Chwalwyd y drefn honno a chafodd Cymru gyfle i gynnal ei senedd ei hun a
breuddwydio am degwch ym myd y gyfraith, addysg, iaith a chrefydd. Yn y
diwedd, trechwyd rhyfel annibyniaeth Glyndwr gan fyddinoedd anferth - ond bu
ei freuddwyd fyw ac erbyn heddiw, chwe chan mlynedd yn ddiweddarach, mae
llawer o'r freuddwyd honno wedi dod yn wir.

Mae'r gerdd 'Chei di ddim odli' yn ymwneud â'r deddfau cosb roedd y Cymry yn
gorfod eu dioddef a'r ffordd roedd y Cymry yn taro'n ôl yn erbyn awdurdod
drwy ddefnyddio geiriau. Doeddan nhw ddim fod i farddoni ­ ond roeddan nhw
yn dal ati i wneud hynny. Pwy allai eu rhwystro rhag odli rhigymau am rywun
cas ac i weiddi'r rhigymau hynny ar y buarth neu yn y coed a'r caeau?

Dyna'r ysbryd sydd yn y gerdd ­ gan ddefnyddio'r math o iaith a rhythmau y
mae plant Cymru wedi eu defnyddio ers cenedlaethau. Taro'n ôl yn erbyn
awdurdod yw prif gorff y gerdd.

Mae'r diweddglo yn wahanol. Does dim odli na rhigymu yn hwnnw. Efallai,
felly, na fyddai llywodraeth y cestyll wedi gwahardd hwnnw. Ond efallai
hefyd bod mwy o farddoniaeth yn y darn hwnnw. Dim ots faint o reolau caeth a
deddfau cosb wnewch chi, bydd pobl yn siwr o gael y rhyddid i ddweud eu
dweud rywsut neu'i gilydd.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
disgybl
 
Pencerdd
Negeseuon: 244
graph
Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed