Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Englyn y Llafariaid
12/12/2005 18:13 #1284
Englyn y Llafariaid Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Mae'r englyn yma mewn llythyr oddi wrth Owain Myfyr at Iolo Morgannwg. All unrhywun feddwl am englyn arall nad sy'n cynnwys unrhyw gytseiniaid? Unrhyw sylwadau?

Englyn y Pryf Sidan
O’i wiw ^wy i weu e’ â – a’i weuau
O’i ^wyau a weua;
E weua ei wê aia’
A’i weuau yw ieuau iâ.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Cynddelw
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 6
graphgraph
Och! o dristwch dirwestol
Ei bar hesb, heb neb ar ôl
12/12/2005 18:26 #1285
par:Englyn y Llafariaid Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Rwy'n cofio gwrando ar y Talwrn nifer o flynyddoedd yn ôl, a chlywed Aled Gwyn yn darllen englyn di-gytsain o'i waith ei hun. Ond, oherwydd eu natur, dydy nhw ddim y pethe hawsa i'w cadw ar gof. A oes rhywun yn ei gofio?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Caleb
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 4
graphgraph
12/12/2005 18:42 #1286
par:Englyn y Llafariaid Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Caleb a ysgrifennodd:
Rwy'n cofio gwrando ar y Talwrn nifer o flynyddoedd yn ôl, a chlywed Aled Gwyn yn darllen englyn di-gytsain o'i waith ei hun. Ond, oherwydd eu natur, dydy nhw ddim y pethe hawsa i'w cadw ar gof. A oes rhywun yn ei gofio?

Dwi'n meddwl mai hwn oedd englyn bogalog (y term am englyn di-gytsain) Aled Gwyn. Roedd ganddo ragymadrodd reit ddifyr i'r englyn hefyd!

Myfyrdod ar dreigl y tymhorau yn Greenland oer fynyddig, gydag astudiaeth gymharol o briodoleddau'r gaeaf a'r haf yn y wlad honno.

O wiw hoe! Ei hoe o ha', hoe i weu
Ei weau hy' hoywa.
Hwy o hoe yw ei aea'
I wyw weu ei we o iâ.

Roedd gan y diweddar Wyn James (Crannog) englyn bogalog yn yr un ornest.

Â'i ieuau i hau, o â, - I Iawe
O'i waeau e' heua,
O aea' i aea' a ha'.
A heuo o a wywa.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
blobby
 
Pencerdd
Negeseuon: 162
graphgraph
Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr
13/12/2005 11:24 #1287
par:Englyn y Llafariaid Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Oes unrhywun yn gwybod pwy yw awdur yr englyn yn fy neges wreiddiol? Nid llaw Owain Myfyr sy wedi'i sgwennu.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Cynddelw
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 6
graphgraph
Och! o dristwch dirwestol
Ei bar hesb, heb neb ar ôl
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed