Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: 11.12.82 - Iwan Llwyd
15/01/2006 20:41 #1339
11.12.82 - Iwan Llwyd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Helo

Dwi'n newydd yma o'r maes. Dwi'n gwneud y gerdd yma yn rhan o'r cwrs Cymraeg TGAU ac mae gen i werthfawrogiad i sgwennu arno cyn diwedd y mis. Mae na drafodaeth wedi bod ar y maes, ond dydy o ddim wedi bod yn lawer o help.

Be dach chi'n feddwl o'r gerdd?

Ydy Iwan Llwyd wedi copio Gerallt Lloyd Owen yn y gerdd yma?

diolch
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
dyl bach
 
Disgybl ysbas graddol
Negeseuon: 25
graphgraph
16/01/2006 00:27 #1342
par:11.12.82 - Iwan Llwyd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Helo Dyl Bach a chroeso. Mae trafodaeth ar y gerdd hon wedi ymddangos yn Barddas. Rhag ofn na welaist hi yn y fan honno, dyma hi:

“Dwi’n gredwr cry bod rhyw ynni newydd yn deillio o bob dihoeni, rhyw fywyd yn mynnu parhau.”

Iwan Llwyd ei hun biau’r geiriau, ac ar dudalennau’r cylchgrawn hwn [Barddas] y cofnodwyd hwy, a hynny nôl yn 1990, yn dilyn ei fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni. Fel y mae’n digwydd, y mae’r geiriau hefyd yn grynodeb cyrhaeddgar o ergyd y gerdd 11.12.82

Roedd ‘Gwreichion’, y dilyniant cerddi a gipiodd y goron i Iwan Llwyd yn 1990, yn crynhoi degawd yn hanes Cymru (1979-89); degawd o siom a dadrith yn dilyn methiant y refferendwm cyntaf ar ddatganoli yn 1979. Degawd a barodd i lawer o Gymry, yng nghysgod chwalfa 1979, droi i’r gorffennol am swcr rhag iddynt orfod wynebu her y dyfodol. Fel hyn y darluniodd Iwan Llwyd y duedd honno yn ‘Gwreichion’:

“cilio gan fwytho clwyfau
i’r caerau a’r cuddfannau ffyddlon i wrando
marwnadau a chlosio’n nes at gymar a chynefin”


Rhyw naws o hunandosturi ac anobaith o’r fath oedd yn perthyn hefyd i lawer o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn 1982 i gofnodi saithcanmlwyddiant marw Llywelyn ein Llyw Olaf, gan gynnwys yr un a gynhaliwyd yng nghysgod y maen yng Nghilmeri union saith can mlynedd i’r dydd y lladdwyd Llywelyn yno. Roedd Iwan Llwyd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, ac fel y tystiodd yn ddiweddarach, y mae’r gerdd 11.12.82 yn seiliedig ar y profiad a gafodd yn y cyfarfod o glywed “babi’n sgrechian ar draws areithiau syrffedus”, a hynny ar ddiwrnod gerwin a gaeafol. Fel sy’n gyffredin yng ngwaith Iwan Llwyd, y mae llawer iawn o’r ymdeimlad y mae’n ceisio’i gyfleu ynghlwm wrth gyd-destun amser a lle.

Wrth droi at y gerdd ei hun, mae rhwystredigaeth y bardd ifanc (a oedd yn ei ugeiniau ar y pryd) i’w deimlo’n gryf yn y pum pennill cyntaf. Mae’r ailadrodd ar y cymal ‘saith canrif’ ar ddechrau pob uned nid yn unig yn amlygu pwyslais y cyfarfod ar geisio lloches yn y gorffennol, ond hefyd yn ein paratoi at y cyferbyniad dramatig a geir ym mloedd y baban yn y pennill olaf. Mae’n werth nodi fel y mae pob un disgrifiad a phob un trosiad yn y pum pennill agoriadol yn creu naws o drymder sy’n agos at fod yn llethol ac sy’n cael ei osod yn erbyn cefnlen o dirwedd a thywydd gaeafol. Mae’r “dail yn diferu atgofion”, y “dydd yn gymylau gwelwon” a thraed y dorf “bron fferru’n eu hunfan”. Yn drosiadol, mae’r bardd yn cyfleu cenedl sy’n llesg gan siom ac yn amddifad o’r hyder i allu cerdded ‘mlaen tua’r dyfodol. Dydy Afon Irfon hyd yn oed ddim yn rhydd i redeg. Fel y mae’r rhew wedi’i charcharu, felly hefyd y mae’r ymdeimlad o ddadrith wedi caethiwo dyheadau a breuddwydion Cymru dechrau’r wythdegau. Mae’r ymdeimlad hwn o ddiymadferthedd yn cael ei gadarnhau gan y darlun o dorf sy’n sefyll “yn ddistaw” “ar erchwyn dibyn”, “yn cyfri’r colledion yn dawel” ac yn gorfod bodloni ar “sôn am orchestion hen oesau”. Dyma aeaf cenedl ym mhob ystyr.

Mae naws y gerdd, fodd bynnag, yn cael ei throi â’i phen i waered yn y pennill olaf, gyda chri’r baban nid yn unig yn “toddi’r gaeafddydd a chwalu’r distawrwydd” ond yn chwalu hefyd yr ymdeimlad o lesgedd trwy orfodi ymateb i “her canrif newydd”. Yn union fel ag y mae’r plentyn Rhys yn y dilyniant ‘Gwreichion’ yn symbol o oroesiad, felly hefyd y mae sgrech y plentyn yn y gerdd hon yn cynrychioli’r rheidrwydd i hawlio dyfodol, nid trwy obeithio’n ddall na thrwy gefnu ar gyfoeth y gorffennol, ond trwy fagu hyder yng ngwytnwch diwylliant sydd wedi llwytho i addasu a phlethu’r hen a’r newydd ar draws y canrifoedd. Yn hynny o beth, y mae’r gerdd gynnar hon yn rhagdybio un o’r themâu amlycaf yng ngwaith diweddarach y bardd.

Yn y cyswllt hwn, ni ellir llai na meddwl am gerddi Gerallt Lloyd Owen i Lywelyn a Chilmeri, cerddi sy’n perthyn yn fras i’r un cyfnod, ond cerddi sy’n bur wahanol eu pwyslais. Yn wir, fe ellid dadlau fod y gerdd 11.12.82 yn cael ei chynnig rhyw fath o wrthbwynt iddynt.

Er mai cerdd benrydd ydy 11.12.82 fel trwch gwaith cyhoeddedig Iwan Llwyd, y mae ôl ei feistrolaeth ar y gynghanedd a’r mesurau caeth yn amlwg iawn arni. Mae’r rhythmau’n bwrpasol a’r ymadroddi’n gwbl ddiwastraff. Er nad oes batrwm pendant i’r penillion unigol, mae’r unedau tair llinell yn dwyn i gof batrymau cyffredin yn y canu englynol cynnar, yn enwedig felly Canu Llywarch Hen. Yn hynny o beth, mae’r pum pennill cyntaf yn consurio’r un math o awyrgylch o hiraeth a cholled ag a geir yn ‘Stafell Gynddylan’ a ‘Cân yr Henwr’. Gyda chri’r baban yn y pennill olaf pedair llinell fodd bynnag, mae’r tinc hiraethus yn ildio i gerddediad llawer mwy pwrpasol a hyderus, symudiad sy’n cael ei rymuso gan y gynghanedd sain estynedig sy’n goferu ar draws y tair llinell olaf (…a thoddi’r gaeafddydd… a her canrif newydd yn nychryn ei waedd). Ac mae’r ffaith fod y pennill olaf hwn, yn wahanol i’r penillion eraill, yn diweddu gyda gair acennog fel pe bai’n cryfhau’r ergyd.

Yn nhermau teipograffeg, bach iawn yw’r gwahaniaeth rhwng hen a her, ond yn seicolegol, y mae’r symudiad o’r naill i’r llall yn sylweddol. Arwyddocâd y symudiad hwnnw yng nghyd-destun Cymru’r wythdegau sydd wrth galon y gerdd rymus hon.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Yr Athro
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 14
graphgraph
16/01/2006 00:35 #1343
par:11.12.82 - Iwan Llwyd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
O ia, ac i ateb dy gwestiynau
dyl bach a ysgrifennodd:
Helo
Be dach chi'n feddwl o'r gerdd?


Mae hi'n gerdd rymus iawn ar ei thraed ei hun, ond mae deall cyd-destun gwleidyddol a diwylliannol Cymru'r wythdegau yn help i lawn werthfawrogi ei hergyd


Ydy Iwan Llwyd wedi copio Gerallt Lloyd Owen yn y gerdd yma?


Mae'n adleisio Gerallt Lloyd Owen yma yn sicr, ond nid er mwyn ei ddynwaredu. Yn hytrach, mae'n ei adleisio fel rhan o'i ymdrech i gyfleu ei weledigaeth amgen ei hun.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Yr Athro
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 14
graphgraph
16/01/2006 19:07 #1344
par:11.12.82 - Iwan Llwyd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Diolch yn fawr Athro. Mae hwnna'n help mawr - dwi'n meddwl.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
dyl bach
 
Disgybl ysbas graddol
Negeseuon: 25
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed