Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Tryweryn Gerallt Lloyd Owen
23/06/2005 09:18 #731
Tryweryn Gerallt Lloyd Owen Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Hollol newydd i gynghanedd ydw i - dal yn cael trafferth gweld os oes rwpeth draws neu groes - Mae llinell gyntaf y gerdd hon yn achosi'r penbleth

Nid oes inni le i ddianc

Wedi ei darllen yn uchel gyda'r pwyslais ar bob un gair, dwi ddim yn gallu gweld (hyd yn oed clywed) unrhyw ymateb cytseiniau, nac odl chwaith.

Unrhywun yn gallu fy helpu?
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Bratiaith
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 2
graphgraph
23/06/2005 09:33 #732
par:Tryweryn Gerallt Lloyd Owen Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Cynghanedd lusg fach syml sydd gan GLO yma. Mewn cynghanedd lusg y cyfan sydd ei angen yw odl rhwng gair yng nghorff y llinell a goben (sef sillaf olaf ond un) y gair diwethaf yn y llinell. Yn yr enghraifft yma, mae inni yn creu cynghanedd lusg gyda di-anc.

Cynghanedd lusg adnabyddus arall gan GLO ydy hon:

Pan feddwn dalent plentyn

Gan obeithio fod hyn o help
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
gavin
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 81
graphgraph
24/06/2005 08:45 #735
par:Tryweryn Gerallt Lloyd Owen Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Roeddwn i disgwyl gweld -ni yn ymateb y -ni arall fel y basai angen ymateb -nid gyda -id er enghraifft.

Credaf fy mod i'n deall nawr diolch Gavin.

Cerdd gwych gyda'r law. Rhediad y geiriau a'r delweddau gryf yn gweithio gydag ei gilydd i wneud bwynt godidog.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Bratiaith
 
Disgybl ysbas heb radd
Negeseuon: 2
graphgraph
19/08/2005 00:44 #988
par:Tryweryn Gerallt Lloyd Owen Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Ydy mae'n gerdd wych. Mae Gerallt wedi dod yn ei flaen yn dda iawn ers blynyddoedd. Dwi'n cofio ei roi ar ben ffordd un tro ynghylch y gynghanedd Sain Gadwynog. Disgybl da a ffyddlon i'r grefft.
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Y Bilwg
 
Disgybl disgyblaidd
Negeseuon: 69
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed