Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Cwrs Sgwennu am Deithio, 23-25 Ionawr, Ty Newydd
17/10/2008 12:07 #2242
Cwrs Sgwennu am Deithio, 23-25 Ionawr, Ty Newydd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Cwrs Sgwennu am Deithio
23ain - 25ain Ionawr, 2009 . Bethan Gwanas a Llion Iwan

Mwynhau teithio? Eisiau rhannu'r profiadau ar bapur, boed ar gyfer llyfr neu bapur bro? Dyma gyfle i drafod be sy'n gweithio a be sydd ddim gyda dau deithiwr profiadol - a rhoi cynnig arni eich hunain.

Bethan Gwanas
Yn ogystal â'i nofelau, mae Bethan wedi sgwennu nifer o lyfrau taith, o Dyddiadur Gbara: cofnod o'i chyfnod gyda VSO yn Nigeria, i'r 3 cyfrol am ei theithiau Ar y Lein ar hyd a lled y byd gyda S4C ac Y Gwledydd Bychain, cofnod o'i theithiau yng Ngwlad y Basg, Llydaw a Norwy gyda Radio Cymru. Mae hefyd yn sgwennu colofnau i'r Herald yn wythnosol - ac mae hi newydd brynu campafan, sy'n siwr o roi deunydd teithiau lu iddi!

Llion Iwan
Awdur, newyddiadurwr a chyfarwyddwr rhaglenni dogfen am deithio tramor ac anturiaethau o Alaska i Mecsico ac Asia ydi Llion. Dwy daith i China, Nepal a Tibet a'i ysbrydolodd i ysgrifennu ei lyfr taith cyntaf, O Afallon i Shangri la. Roedd yr ymateb a'r profiad yn sbardun i ysgrifennu tair nofel. Ei brofiadau yn yr Himalayas hefyd sydd tu cefn i'w nofel ddiweddaraf a gaiff ei chyhoeddi yn yr Hydref.

Prisiau:

£215 (rhannu ystafell); £235 (ystafell sengl); £160 (di-breswyl)

Grantiau ar gael.

Cysylltwch â ni ar 01766 522811 post@tynewydd.org
www.tynewydd.org
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Olwen Dafydd
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 106
graphgraph
12/11/2008 13:17 #2262
par:Cwrs Sgwennu am Deithio, 23-25 Ionawr, Ty Newydd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
10% i ffwrdd oddi ar bris y cwrs hwn ond i chi gofrestru cyn y Nadolig!
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Olwen Dafydd
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 106
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed