Croeso, Ymwelydd
Clicia i Fewngofnodi neu Gofrestru.    Wedi anghofio cyfrinair?
Dos i'r gwaelodTudalen: 1
Pwnc: Cwrs Cyfansoddi, Mawrth 5-7, Ty Newydd
23/10/2009 16:10 #2322
Cwrs Cyfansoddi, Mawrth 5-7, Ty Newydd Argraffu'r dudalen Click this button to create a PDF document from this thread (opens in a new window).
Cwrs Cyfansoddi
Mawrth 5 - 7

gyda Steve Eaves ac Elwyn Williams

Mae’r cwrs hwn ar gyfer ysgrifenwyr a cherddorion sydd â diddordeb mewn cyfansoddi. Dewch i gael eich hysbrydoli gan ddau gerddor proffesiynol, i ysgrifennu penillion caneuon neu greu darn o gerddoriaeth. Byddwch yn mynychu sesiynau grŵp yn ogystal â chael y cyfle i weithio â’r tiwtoriaid mewn sesiynau unigol. Cofiwch fod croeso i chi ddod ag offeryn gyda chi!

Steve Eaves - Bu’n perfformio ar lwyfannau fel cerddor ers dros 40 mlynedd, a daeth i amlygrwydd fel bardd a gyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986). Ar ôl cyhoeddi ei ail gyfrol o gerddi, penderfynodd ganolbwyntio mwyfwy ar ddefnyddio’i ganeuon a’i gerddoriaeth fel cyfrwng mynegiant. Mae Steve a’i fand, Rhai Pobl, wedi recordio 9 albwm o ganeuon gwreiddiol Steve ers 1983 – yn eu plith Cyfalaf a Chyfaddawd (1985), Croendenau (1992), Y Canol Llonydd Distaw (1996), Iawn (1999) a Moelyci (2007).

Elwyn Williams - Mae ei gyfraniad i ganu cyfoes Cymraeg yn ymestyn yn ôl i ddiwedd y 70au. Bu'n cyfansoddi caneuon gyda'r grŵp Doctor; ar gyfer Enw Da, Geraint Lovgreen ac, yn fwy diweddar, gyda'r bardd, Iwan Llwyd. Cychwynnodd ei bartneriaeth gyda Steve Eaves yn yr 80au cynnar ac ers hynny, bu'n cyd-gynhyrchu, ac yn chwarae offerynnau amrywiol, ar ei holl recordiau. Bu hefyd yn cyd-weithio â nifer o artistiaid eraill, o Gymru a thu hwnt, ac mae ei enw yn ymddangos ar dros 30 o recordiau.

Prisiau: £200 (Preswyl); (+£25 am ystafell sengl) £150 (Di-breswyl)

Cysylltwch i gadw lle: 01766 522811 post@tynewydd.org www.tynewydd.org
All-lein
Mae'r Gweinyddwr wedi pennu mai defnyddwyr cofrestredig yn unig gaiff gyfrannu i'r seiat. Brig
Olwen Dafydd
 
Disgybl Pencerddaidd
Negeseuon: 106
graphgraph
Dos i'r brigTudalen: 1
Cymedrolwr: yprifgopyn

Aelodau'r Annedd

  • 367 aelod
  • 0 heddiw
  • 0 yr wythnos hon
  • 12 y mis hwn
  • Diweddaraf: David Leslie Davies

Rhannu'r Annedd

Facebook MySpace Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks RSS Feed