Hen was priodas y prins

Argraffu

Rwy’n was priodas i’r Prins
(Yr inbred, mab yr henbrins),
Gwas priodas, nid prydydd,
Ac rwy’n was priodas prudd
Am fy mod i’r briodas
Insên hon eisoes yn was.
Cyn clywed ledled y wlad
Am ddau, am ddyweddïad,
Gwas i’r pâr own, gwas i’r pris
Diddiwedd – nid o ddewis,
Nid o eisiau i’r un dashing
Fy nallu â’i blu a’i bling,
Nid o angen rhyw hen her,
Ond o orfod, o arfer.

Pan ’de chi’n chwerthin? Cewch wŷs
Eich hunain gan eich ynys
I rolio ar ei alwad,
Llyfu tin, plygu glin gwlad
A moesymgrymu o Went
I Fôn cyn mynd i’r fynwent
Yn eich holau. Cewch eilun
Mawr pur, chi lyfwyr o Lŷn,
A thin, blygwyr glin o Glwyd,
Eich eilun ar eich aelwyd;
Mae plygu, llyfu’n llafar,
At galon gweision Sir Gâr,
Ac yn wir fe giwian’ nhw
’Mrycheiniog am rych hwnnw;
Moch Môn sy’n weision eisoes
(Caiff weision ym Môn am oes).

Ewch i ddiolch i Ddewi
A gwenu’n hurt – fe gawn ni
Ddiwrnod off gan y toff tal;
Yn y gwanwyn cawn gynnal
Ein dathliadau a thlodion
Y wlad ddaw allan i’r lôn
I’w ddisgwyl yn ein gŵyl gaeth
A chwifio’i oruchafiaeth.
Gweision i’r Prins o Winsor,
Ie, Wales sy’n was i Wills nyr,
Yn was neis i Wills a’i nain,
Yn was priodas Prydain.