Diolch, Jonsi

Argraffu

Siarad KO

Diolch, Jonsi
1995-2010

Ym Mryn Meirion, mae arwr
isaf sôn yr orsaf, siw^r?
A’i hedd ar fysedd yn fêl,
mwy'r diolch am awr dawel:

Ei dawel ymadawiad
yn rhu’i lais yw crygni'r wlad
os di-waith yw ei iaith o
a'r direidi ar dy radio.

Radio'r rhai di-hyder oedd,
acenion byw y cannoedd
na all weld na hyd na lled
geiriau ei feic agored.

Yn ei eiriau, roedd gwerin
biau'r iaith am orig brin;
nid oedd raglen i'r henwyr
fynnai gadw'r berw'n bur!

Ond yr oedd yn bur ei dras
ac yr oedd geiriau addas
y Bangor-lad a'i ramadeg
yn rhy wir yn ffatri’i reg:

Gwir eithaf a diafael
llond stadau o sgyrsiau gwael,
terasau patro isel
y tai rhent, a'r rhai a wêl

yn stryd gownsil yr hil hon
dafod yn n'wedyd Eifion;
berfau i'n henwau'n neb
yw'r rhain, y blêr eu hwyneb.

'r rhai hyn, nid tâl yw'r iaith,
na phunnoedd yw corff heniaith;
nid cyflog ei chefnogi,
nid sgwrs ei phwrs yw eu ffi.

Ond a sgyrsiau’r siwtiau sych
am fanion, manion, mynych;
mor galed, saled eu sôn
am arwyr ym Mryn Meirion.