Cywydd Gofyn am Gywydd Gofyn

Argraffu
(Roedd arna’ i angen cerdd i’w darllen yn y Stomp ar nos Wener yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd)

Mae’n ddydd Iau a minnau’n ddwl
(am warth) a ’mhen fel mwrthwl:
nos Wener ddaw i’m herio
heibio’r drws mewn byr o dro.

Pannas! Rwyf i mewn panic:
un dydd i wneud cywydd cwic
ac am hynny, Salisbury syn,
a gaf-i gywydd gofyn?

Rwyt yn fardd, yn brifardd, bron,
y mwyaf heb amheuon.
Wyt gynganeddwr gwrol
cymen dy lên a di-Lol(!)
Wyt dad-cu i’r canu caeth,
boi â’r ddawn mewn barddoniaeth.

Ga’i gywydd teg ei gywair
(’mond un bychan, rhyw gan gair)
yn null canrifoedd yn ôl,
yn deidi draddodiadol?

Ond hold on, myn yfflon i:
myn diafol! Mae un ’da-fi!