Achos: Grahame Davies

Argraffu

Yn ôl ei arfer, mae Grahame Davies – yn ei drydedd gyfrol o farddoniaeth – yn llwyddo i daro tant gyda’i gynulleidfa. Ceir yma gerddi penodol am Gaerdydd a’r cymoedd yn ogystal â chymysgedd o gerddi taith, dilyniannau ar thema a sonedau a cherddi am ddigwyddiadau arbennig sydd wedi cael rhyw effaith ar y bardd.

Hoffais wreiddioldeb y gerdd ‘Bodio’ yn disgrifio diniweidrwydd merch o wlad Pwyl yn ymddiried mewn dieithriaid wrth deithio yn eu ceir:

. . . pob taith yn ddatguddiad
mai haelioni yw’r tanwydd yng ngwythiennau dynion.

Mae’r tro yn y gynffon yn effeithiol. Cerdd arall a wnaeth argraff arnaf yw ‘Cais’ ble mae’r bardd yn erfyn am gael gwneud gwahaniaeth:

. . . nid mewn rhyw wyrth
a wna i eraill ryfeddu
gan fy ngwneud i yn falch

Yn hytrach mae’r bardd yn gofyn am gael bod yn arwr tawel sy’n gwneud ‘gweithredoedd disylw’ am ei fod yn credu mai’r pethau bach yma sy’n cadw’r byd i symud. Mae hon yn gerdd syml sydd yn gadael y darllenydd yn cwestiynu ei weithredoedd ei hun.

Mae ‘Bore Sul y Pasg, Miami Beach’ yn un o’r cerddi sydd wedi ei lleoli y tu allan i Gymru lle mae’r bardd yn eistedd ar y traeth, ac wrth wylio grŵp o bobol yn mynd drwy eu pethau, yn hel meddyliau am ei gred ei hun:

yn rhannu, os nad eu llawenydd,
un eiliad fyth-dragywydd
o sancteiddrwydd sgleiniog stond

Mae ‘Freeway’ yn aros yn y cof am ei bod yn creu naws rhyddid gwyliau a’r mwynhad ymlaciedig o wneud dim byd:

Ac wrth i’r cwrw gyrraedd does dim yn bod;
roedd heddiw’n ddiwrnod perffaith, ac mae mwy i ddod.

Y peth braf gyda chyfrol o farddoniaeth yw y gallwch bicio i mewn ac allan ohoni fel y mynnwch ac fe geir ambell i gerdd yn Achos sy’n galw am gael ei darllen fwy nag unwaith er mwyn ei gwerthfawrogi. Mae ‘Muriau’ yn ddilyniant o’r fath gan ei bod yn ymdrin â themâu gwleidyddol a hanesyddol a moesol y byd fel sefyllfa oesol Palestina ac erchylltra’r Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf lle mae milwr Prydeinig yn gafael yn llaw milwr o’r Almaen sy’n marw. Mae sensitifrwydd y bardd ar waith yma:

A meddyliais: myn uffern,
dwi’n ddigon o ddyn i ladd,
dwi’n ddigon o ddyn i wneud hyn:
a chymerais ei law yn fy nwylo lleidiog i:
'Mae’n iawn, ’machgen. Mae’n iawn.
Mae Mam yma.’

Mae Grahame Davies yn cael ei adnabod fel bardd crafog, cellweirus, ac mae adran gynta’r gyfrol yn adlewyrchu hyn. Yn ‘Abercanna’ ceir y bardd a’i dafod yn ei foch yn gwawdio ffordd o fyw'r Cymry dosbarth canol yng Nghaerdydd. Ffordd o fyw y mae yntau wedi ymdoddi iddi bron yn ddiarwybod iddo. Dyma arddull y bardd ar ei orau. Sut gellir peidio â gwenu wrth ddarllen llinellau fel hyn sy’n adleisio’r gerdd fythgofiadwy honno ‘Blues Pontcanna’?:

Pan fwyf yn hen a pharchus,
heb deimlo tynfa’r tir,
pan nad yw bro fy mebyd
yn fwy na llun ar fur,
tawelaf fy nghydwybod,
wrth feddwl fel ‘na mae
ger caeau gwyrdd Pontcanna
a dyfroedd llyfn y Bae.

Casgliad mwyaf ysgytwol y gyfrol yn fy marn i yw ‘Awelon’ lle ceir disgrifiadau cignoeth, diflewyn-ar-dafod, o sefyllfa’r Gymraeg a’n hagwedd ati yn yr oes sydd ohoni. Mae ysgafnder y mydr a symlrwydd y dweud yn creu neges ysgytwol:

Fe chwilia’r awel holl gilfachau’n gwlad
Am sillaf o’n diwylliant di-goffâd;
Gan sibrwd wrth y glaswellt ar y ffridd:
Mor hyfryd oedd, mor hyfryd yn ei ddydd.

Mae amrywiaeth y mesurau a dyfnder y dweud a’r cyfuniad o’r cellweirus a’r dwys yn golygu y bydd Achos yn apelio at ddarllenwyr o bob math. Y mae yma ddweud pendant am ein sefyllfa ni heddiw fel Cymry cyfoes. Dyma gyfrol gwerth ei chael.

Mari George

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.