Golwg Arall: Dic Jones

Argraffu

Pan gyhoeddodd Dic Jones ei gyfrol gyntaf Agor Grwn yn 1960, syfrdanwyd llawer ohonom gan ei allu i greu cerddi portread yn y mesurau rhydd yn ogystal â cherddi a ddangosai ei feistrolaeth ar y canu caeth a’r fath addewid oedd yn stôr. Ydych chi’n cofio’i gân i’w dad ('’Nhad'), i’r hen wraig grefyddol Ellen Ann neu i’r cymydog Trefor? Daeth sawl cyfrol o stabal yr Hendre wedi hynny, yn profi proffwydoliaeth T. Llew Jones ac eraill ar y pryd y deuai Dic Jones yn un o feirdd disgleiriaf Cymru.

Daeth Agor Grwn i’r cof wrth ddarllen cyfrol ddiweddaraf Dic Jones - Golwg Arall, sef barddoniaeth ac ysgrifau’r awdur. Yr ysgrifau yn bennaf yn adleisio (yn yr ystyr orau) y cerddi coffa y soniwyd amdanynt uchod. Portreadau yw’r rhain sydd yn dangos gwir grefft y llenor ac yn atgoffa dyn am un o arwyr mawr Dic, sef D. J. Williams Abergwaun.

Mor grefftus gynnil yw’r ysgrifau, fel y gallwn synhwyro – ond nid gweld – y bardd yn nillad llenor, ond o leia â llygad bardd yr adnabu Dic ei bobl. Dwy chwaer, meddai’r broliant, yw barddoniaeth a rhyddiaith ac fe’u cyhoeddwyd ochr yn ochr â’i gilydd yma. Profi’r pwynt y mae Dic Jones yn Golwg Arall, ac nid oes le i amau hynny gan mor loyw yw’r cyflwyniad boed yn ysgrif neu’n gerdd, mor gynnil yw’r trawiad, ac mor gofiadwy yw’r darlun.

Wrth gwrs, cerddi diweddar a geir yma, rhai yn ddarnau a gyhoeddwyd yn wythnosol yn y cylchgrawn Golwg – caneuon am ddigwyddiadau’r dydd a hynny’n fynych gyda dos o hiwmor neu ddychan ysgafn. Eto yn cyffwrdd â’r mêr.

Canwyd nifer o gerddi yn ôl traddodiad Cymreig, cerddi coffa a cherddi cyfarch beirdd ar fuddugoliaethau. Dyna chi’r cywydd i Tudur Dylan sy’n enghraifft wych o’r canu mawl o oes aur y cywyddwyr, a’r cywydd byr i’r Cel Du yn ein hatgoffa o Tudur Aled.

Englyn sy’n aros yn y cof (o blith niferoedd) yw'r englyn i’r Pum Llanc (a laddwyd mewn damwain ym Mlaenannerch:

Hwn yw mur y pum hiraeth – a gwely
Galar pum cymdogaeth;
Am y pum llanc ifanc a aeth
I wal y pum marwolaeth.

Gwelir gwir nerth y bardd yn ei feistrolaeth o’r mesur hir-a-thoddaid. Roedd hyn yn amlwg yn Awdl y Cynhaeaf slawer dydd. Sylwch heddiw ar loywder y canu yn ‘Eich Sêr a Chwi’ neu ‘O Na Byddai’n Haf o Hyd’ yn y gyfres 'Cymru Dwy Fil'. Yn holl hanes barddoniaeth Gymraeg, Dic Jones greda i yw pencampwr y mesur hwn.

Yn ôl eto at Agor Grwn a geiriau T. Llew Jones – 'ac fe geir ynddi, hefyd, rywbeth a fydd yn eisiau efallai yn y cyfrolau nesaf, sef asbri a’r hyder nodweddiadol o fardd ifanc.' Bu deugain mlynedd olaf yr ugeinfed ganrif yn rhai chwyldroadol. Fel bardd, ni pheidiodd Dic Jones â chanu i’r newid, a gwnaeth hynny gyda’i hyder a bywiogrwydd nodweddiadol fel y gellir profi o ddarllen Golwg Arall. Ni heneiddiodd ei awen eto!

Dyma gyfrol arall i’w thrysori.

Vernon Jones

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.