Tair Mewn Un: Gwyneth Lewis

Argraffu

Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru – mae’r teitl yma ynddo’i hun yn siarad cyfrolau am y bardd amryddawn yma. Nid ar chwarae bach y derbyniodd hi y fath anrhydedd ym mis Ebrill 2005, ac wrth bori trwy gerddi Gwyneth Lewis rydych yn cael eich taro gan ei phrofiadau amrywiol a’i gweledigaeth.

Credaf fod Barddas i’w llongyfarch am gasglu cerddi ei thair cyfrol at ei gilydd a’u rhoi dan yr un ymbarél. Heb os, mae yma amrywiaeth eang o ganu ond mae’r diferion i gyd yn rhan o’r un rhaeadr fyw a byrlymus sy’n ein harwain trwy daith bywyd y bardd. Ys dywed Gwyneth Lewis ei hunan yn ‘Dadl rhwng Carma a’r bardd’:

Prif waith
Bardd yw cyfieithu profiad i iaith
Yna geiriau i’w gilydd.

Ffrwyth dros bymtheng mlynedd a mwy o gyhoeddi barddoniaeth sydd yn y gyfrol. Agorir gyda Sonedau Resda a Cherddi Eraill a gyhoeddwyd gyntaf ym 1990. Cyfres o gerddi mewn mydr ac odl a geir yn Sonedau Resda ble mae’r bardd yn siarad yn uniongyrchol â’i merch fedydd o Ynysoedd y Philippine. Mewn sonedau byw a theimladwy cyflwynir ni nid yn unig i Resda, y plentyn bach, ond mae yma hanes, llinach a thraddodiad ei gwlad ynghlwm yn yr hyn y mae’n ei etifeddu.

. . . Ryw ddydd fe ddeelli’r llinellau hyn,
Fy anrheg fedydd yw hanes dy wlad:
Rhyfel, Magellan, y plas ar y bryn,
Aberth Aquino, creulondeb a brad.

Cofia’r breuddwydion a chei fyw yn rhydd,
Di blentyn y chwyldro, yng ngolau’r dydd.

Cawn yr un ymrwymiad cryf â thir a llinach yn 'Bro Ceridwen', yr ail o’i phryddestau cynnar, ac yn wir mae adleisiau braf o Alun Mabon yn y gerdd. Ond cerddi saff, diogel ydynt mewn gwirionedd. Oes, mae yma fardd sydd eisiau torri’n rhydd, a chicio yn erbyn y tresi, bardd sydd eisiau chwalu pob delwedd ddiogel, ond yn y cyfnod yma mae ‘Dameg y ferch chwithig’ yn wir – mae’r bardd fel petai yn y stad o fod ‘rhwng, dros’. Sefyllfa besimistaidd mewn ffordd, fel yn y gerdd ‘Adeste Fideles’: ‘mae niwl y celwyddau / Dros Angau’r Geni’.

Erbyn Cyfrif un ac un yn Dri ym 1996 cawn lais pendant y bardd – llais profiad, efallai – ac er nad yw’r profiad hwnnw bob amser yn un pleserus mae'n llywio’r dyfodol: ‘. . . mae eu hailddarllen [y cerddi] fel edrych i bwll fy isymwybod, ffynnon sy’n dangos rhai pethau afluniaidd, ond sydd yn proffwydo’r dyfodol’, ys dywed Gwyneth Lewis yn ei rhagair i Tair Mewn Un.

Does gan y bardd ddim ofn dweud ei dweud bellach ac mae yma wirioneddau mawr; gall wneud i ni deimlo’n gysurus ond ar yr un gwynt gall roi sioc annifyr i ni, megis ‘Adar!’. Teimlir, fodd bynnag, bod mwy o undod yma, mwy o ymdeimlad o berthyn megis yn ‘Bedydd yn Llanbadarn’ a ‘Hanner a Dymchwel y Wal’, ac yn ‘Ffosiliau’ dywed: ‘Mor fain yw’r haen rhwng yr oesau!’

Mae casgliadau’r ail gyfrol yn awgrymu’r ymdeimlad o gylch a chysylltiad: ‘Dolenni’, ‘Y Daith’, ‘Cylch amser’, ‘Cyfannu’, ‘Melodïau’. Ceir cysylltiad rhwng byd natur a ffawd dyn – dyfyniadau diarhebol bron sy’n rhy niferus i’w cofnodi’n unigol. Beth am y delweddu yn ‘Melodïau’?

Gyrrwn mewn twnnel o olau aur,
Y llinell doredig fel cotwm gwyn,
A’r car yn llyncu edafedd y ffordd.
A fi oedd llygad y nodwydd.

Cyhoeddwyd ei thrydedd gyfrol, Y Llofrudd Iaith, ym 1999, ac enillodd y gyfrol Wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. Yng ngeiriau’r bardd ei hunan: ‘. . . Fe’i hysgrifennais fel ymateb i ddatganiadau byrfyfyr a wnaed i ddathlu troi’r llanw yn y frwydr i achub yr iaith Gymraeg’.

Rhaid i mi gyfaddef fy mod wrth fy modd efo Y Llofrudd Iaith. Mae’r holl gasgliad yn undod llwyr, yn stori dditectif afaelgar, yn frith o syniadau gwreiddiol ac yn pigo’r gydwybod. Wrth bersonoli’r iaith fel mam, cawn olygfeydd byw a dadansoddiad o’r rhai sy’n codi amheuon ynglŷn â’i llofruddiaeth. Trwy amrywiol gerddi ceir cyffes, ymchwiliad, cyfweliad, toriadau papur newydd, adroddiad, tystiolaeth, ewyllys, a chasgliadau'n ymwneud â’r llofruddiaeth. Mae’n rhoi darlun o fywyd cefn gwlad Cymru i ni ac wrth gyfeirio at farw’r iaith fel llofruddiaeth mae’r argyfwng yn fwy difrifol nag erioed. Croniclir y sefyllfa yn ‘Cyffes y Bardd’:

. . . fe fu’n ddynes anodd. Ond roedd angen hon.
Dyma fy mhasport. Mwrdrais fy mam.

Mae’r holl gasgliad yn gelfydd, yn brifo, yn wir ys dywed y bardd ei hunan, yn ‘fwy pesimistaidd am y dyfodol nag yr oedd R. S. Thomas cyn iddo farw’ ond hefyd yn procio cydwybod pob un ohonom i weithredu gobeithio gan geisio sicrhau na fydd tynged yr iaith fel yn ‘Ewyllys yr Iaith’:

. . . Yna taenwch fy llwch
Ar y mynydd gyda’m gelyn, tawelwch.

Mae’r llinellau mor gofiadwy, mor real, fel geiriau sydd i fod i gyd-fynd erioed; pa ddisgrifiad gwell o aelodau gwahanol y teulu na

mae gan un
Glogwyni
A’r llall ogofâu

Dywed Gwyneth mewn cyfweliad â Barddas: ‘mae pob bardd gwerth ei halen yn lladmerydd cenedlaethol, yn yr ystyr ei fod e neu hi yn myfyrio’n ddwfn am gyflwr diwylliant ac yn ymateb yn greadigol i hynny’. Profa Y Llofrudd Iaith y ddamcaniaeth yma i mi.

Yn Tair Mewn Un ceir hefyd dair cerdd newydd, tair ychwanegol, sydd eto’n damaid i aros pryd – ac mae ‘Gadael’ yn gerdd y bûm yn myfyrio drosti droeon gan ddehongli rhywbeth newydd bob tro.

Nid yw Gwyneth Lewis yn fardd ymddangosiadol syml. Mae’r cerddi yma i’w darllen a’u hailddarllen mewn gwedd newydd o hyd. Nid yw'r hyn yr ysgrifenna amdano yn syml, yn ei holl ddweud a’i wrthddweud, ond wrth fyfyrio dros y cerddi gellir gweld bywyd yn ei holl gyfanrwydd, o’r argyfwng gwacter ystyr i gylch bywyd a threfn anorfod natur. Nid oes ganddi ofn cyffwrdd â phynciau anodd neu arloesol: ‘. . . ond mi ydw i eisoes wedi ysgrifennu am dechnoleg, cyflwr cefn gwlad Cymru, gwleidyddiaeth iaith a salwch meddwl, cwestiynau sydd yn themâu Mawr i ni fel cenedl’ (Gwyneth Lewis mewn cyfweliad yn Barddas).

Bardd crwn, bardd hanesyddol, bardd natur, bardd y gwirioneddau mawr sydd yr un mor gyfforddus yn barddoni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dyma gyfrol o farddoniaeth bwysig gan un o brif feirdd Cymru; cyfrol a fydd yn rhan allweddol o gasgliad y llenor brwd am flynyddoedd lawer neu o leiaf hyd y gwelwn ni’r gyfrol nesaf, efallai – Pedair Mewn Un!.

Andrea Parry

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.