Apocalups Yfory: Gwyn Thomas

Argraffu

Efallai mai'r bardd a ddylanwadodd fwyaf ar genhedlaeth y chwarter canrif diwethaf o feirdd yw Gwyn Thomas. Mae ei ôl yn drwm ar waith beirdd mor amrywiol â Menna Elfyn, Gerwyn Wiliams a hyd yn oed Ifor ap Glyn. Yn annibynnol ar gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol a chynnydd a phoblogrwydd y canu caeth a Thalwrn y Beirdd, torrodd Gwyn Thomas ei gwys ei hun, yn bwrw golwg ffraeth a chrafog ar y byd cyfoes a'r newidiadau enfawr a ddaeth i ran y gymdeithas a'r diwylliant Cymreig yn ystod y deugain mlynedd diwethaf.

Yn y gerdd a roddodd deitl i’r gyfrol hon, ‘Apocalups Yfory’, mae’n hel atgofion am gymdeithas Blaenau Ffestiniog ei blentyndod, ac yn gresynu bod y gymdeithas honno, a’r diwylliant hwnnw, wedi mwy neu lai ddiflannu o’n byd:

Lle oedd o – does dim dwy waith –
Sydd yn swnio i amryw, yn awr, mi wn,
Yn rhyfeddol iawn o ystrydebol;
Ond, er hynny yr oedd o.

Fel T. H. Parry-Williams o’i flaen, mae Gwyn Thomas yn feistr ar droi iaith lafar, sgyrsiol, yn farddoniaeth, a gweld rhyfeddod a gwirionedd arhosol yn y digwyddiad neu’r dywediad mwyaf cyffredin a di-nod. Mae o hefyd yn hynod o barod i wneud hwyl am ben ei grefft a’i ddawn o ’i hun. Yng ngherdd gynta’r gyfrol mae’n gofyn cwestiwn sy’n poeni pob bardd o bryd i’w gilydd – ‘Be Ydi Barddoni?’ – ac ar ôl dod i’r casgliad mai ‘bodoli mewn tywyllwch’ ydi’r cyfan, mae’n cysuro ei hun:

Cwestiwn da,
Wel, y mae o, welwch chi,
Yn rhywbeth i’w wneud
On’d ydi?

Yn fwy na neb arall, Gwyn Thomas a arloesodd y cyfuniad o farddoniaeth a theledu a radio, ac er gwaetha'i anobaith ynglŷn â chynulleidfa effro mewn cerddi fel yr uchod, a cherdd grafog arall dan y teitl ‘Brychan, yn Bedwar Mis’, cyfathrebu yw nod ei gerddi, rhannu synhwyrau a theimladau amrywiol bywyd, o’r lleddf i’r llon. Ac yn aml iawn, dan ryw gerdd sy’n ymddangos yn hynod o ffwrdd-â-hi, mae yna wirionedd ingol yn llechu. Mae dyfnder ei wybodaeth am ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru yn amlwg mewn cerddi mor ymddangosiadol ysgafn ⠑Tarw Elis Wynne’ neu ‘Evan Roberts y Diwygiwr’, ac mae dylanwad Dafydd ap Gwilym ar ei waith hefyd yn amlwg mewn cerddi fel ‘Ble Mae y Gôg?’:

Hebddi hi, nid yw’r haf,
Nid yw taslo aur yr haul
Sy’n direidus-sbecian
Trwy doreth glas y dail
Ond coreograffi amddifad o ddawnsio.

Er gwaethaf ei hunan-ddychan diymhongar, mae cerddi Gwyn Thomas, a’r gyfrol ddiweddaraf hon, yn profi pam bod yr iaith Gymraeg a’i barddoniaeth, er gwaethaf pawb a phopeth, yn dal yn beryglus o berthnasol ar ddechrau’r 21ain ganrif.

Iwan Llwyd

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.