Dim ond Deud: Dafydd John Pritchard

Argraffu

Yr hyn sy’n taro rhywun gyntaf am y gyfrol gyntaf yma o gerddi gan Dafydd John Pritchard, y bardd o Nant Peris, ond Llanbadarn erbyn hyn, yw catholigrwydd y cynnwys. Ystyr y gair hwnnw yn ôl y Geiriadur Mawr yw ‘rhyddid oddi wrth ragfarn’, ac yn sicr does dim rhagfarn o gwbl yn perthyn i’r ystod hynod eang o gerddi yn y gyfrol hon, dim mwy nag sydd i’r awdur ei hun.

Yn wahanol i lawer o’i genhedlaeth ef o feirdd, dewisodd Dafydd John aros am beth amser cyn cyhoeddi ei gyfrol gyntaf, ac mae’r gofal hwnnw yn amlwg yn ei ddetholiad, ac yn y modd y cyfosodwyd hwy yn y gyfrol. Mae deng mlynedd ers iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr ym 1996, a threuliodd y cyfnod oddi ar hynny yn hogi a miniogi ei grefft, yn gaeth a rhydd.

Mae ystod pynciau’r cerddi yn mynd â ni i bob cyfeiriad. Yn addas iawn, mae’r gerdd gyntaf, ‘Pabydd? Pam?’ yn trafod ei dröedigaeth i’r ffydd Babyddol, elfen arall ar ‘gatholigrwydd’ y gyfrol. Mae’n ceisio ateb y cwestiynau unwaith ac am byth, ac nid am y tro cyntaf yn y gyfrol, mae’r amheuwr mawr o fardd, Phillip Larkin, yn codi ei ben:

‘Synhwyrais fod mwy tu hwnt
i gyrion llenni Larkin
na’r dydd a’i olwg stond
ar yr anorfod,

a mwy yn fanno
nag a feiddiwn ei arllwys
i gronfeydd dychymyg.
Mwy nag atebion.’

Mewn cerddi cyfoethog a myfyriol eraill fel ‘Gweddi’ a ‘Cwestiwn’, sy’n rhan o’r casgliad ‘Olwynion’, mae’r bardd yn ymchwilio i ystyr ffydd a chrefydd yn ein hoes faterol, ac yn llwyddo i ganfod goleuni yn y tywyllwch.

Ond nid bardd dwys, difrifol mo Dafydd John Pritchard. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd y ‘Cŵps’ yn Aberystwyth, ac yn stompiwr yn ei dro, ac mae cynnyrch yr ochr gymdeithasol hon yn rhoi lliw i’r gyfrol. Cymdeithasol hefyd yw ei ganu i gyfeillion a chydnabod, ac mae’n canu mor rhwydd yn y mesurau caeth a rhydd, a hynny â blas llafar tafodiaith Bro Peris. Mae yma gerddi gogleisiol i’w fro enedigol, fel y gyfres o driawdau celfydd, ‘Oes Gafr Eto’. Mae yma gerddi gwleidyddol i Streicwyr Fferodo, argyfwng yr iaith, a’r llanast a ddaw yn sgil y farchnad fyd-eang. Ac mae ei gatholigrwydd yn ei arwain i bedwar ban byd hefyd, i Dde’r Affrig a’r Unol Daleithiau, i Santiago a Budapest, ac mae’r un sylwgarwch sensitif, diragfarn yn treiddio trwy’r cerddi hyn.

Fel y mae’r teitl yn awgrymu, nid pregethu a wna Dafydd John ond ‘dweud ei ddweud’ yn ei ffordd dawel a diymhongar ei hun. Ond yn aml iawn llinellau a cherddi’r beirdd tawel sy’n taro galetaf.

Iwan Llwyd

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.