Ffordd y Pererinion: James Nicholas

Argraffu

Mae darllen drwy’r gyfrol hon o glawr i glawr fel mynd ar bererindod yng nghwmni’r Prifardd James Nicholas, gydag yntau’n sylwebydd craff a diffuant wrth iddo ein tywys o amgylch rhai o lecynnau mwyaf dylanwadol ei fywyd, a chawn gwrdd â rhai o’i gyfeillion a’i arwyr ar hyd y ffordd. A thrwy hynny cawn fwy na chip ar yr hyn sy’n bwysig i’r cyn-archdderwydd a chyn-lywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, a’r hyn sy’n agos at ei galon.

Y gyntaf o’r tair cerdd a roddodd fwyaf o bleser i mi yw’r awdl a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Fflint iddo ym 1969 ac sy’n rhoi ei ymateb ef i arddangosfa’r cerflunydd Henry Moore. Mae ôl llafur hirfaith ar yr awdl, ac mae’r cyfanwaith yn greadigaeth artistig lwyddiannus a pharhaol. Yr ail yw’r cywydd ‘Bardd’ sy’n farwnad i Waldo ac yn deyrnged i’r syniad o fardd yn gyffredinol. Disgrifir dawn y bardd:

‘. . . A dawn ydyw yn edau
A geir amdanom yn gwau, -
Edau caeth brawdoliaeth dyn,
Edau ein rhyddid wedyn.’

A’r drydedd yw ‘Y Waedd’, cerdd a ddaeth, yn ôl y bardd, dan ddylanwad paentiad enwog Edvard Munch, ‘Y Sgrech’. Gallaf weld y paentiad erchyll hwnnw’n fyw wrth ddarllen y gerdd lle llwydda’r bardd i roi geiriau i’r waedd a ddaw o ofnau tywyll a dwfn yr unigolyn.

Ond wrth edrych yn ôl ar y gyfrol, dau beth sy’n aros gliriaf yn y meddwl, ar wahân i’r tair cerdd uchod. Y cyntaf yw’r pennill canlynol o’r gerdd ‘Concorde’:

‘Safwn ar y groesffordd, lle mae’r llwybrau’n croesi
Llwybr y pererinion gynt, y Brodyr, a Dewi Sant,
A llwybr taran y dechnoleg garlamus uwch ein pennau:
Mae’r ddaear dan ein traed yn crynu hyd fryn a phant.'

I mi, ceir yn y pennill hwn ganolbwynt syniadaeth y gyfrol sef y groesffordd honno sy’n ei hamlygu ei hun heddiw ym mhrif themâu’r awdur – ffydd Gristnogol, brawdgarwch, brogarwch a gwladgarwch. Y mae’r groesffordd yn arwydd o atyniadau ffordd y byd modern sy’n fygythiad i’r hen ffordd, ac yn ei farddoniaeth ceisia’r bardd ein tynnu ni nôl at ffordd y pererinion.

Yn anffodus, yr ail beth sy’n aros yn y meddwl yw safon isel ffwrdd-â-hi rhai o’r cerddi, a’r gwallau cyson. Tuedda rhai o’r cerddi caeth i fod yn llinellog, ac ni thalwyd digon o sylw i atalnodi a brawddegu. Darllener ‘Cywydd Cyfarch Mr a Mrs Henry Evans’, a’r cywydd i ‘Robert Emyr Jones’ i weld enghreifftiau o hyn, lle mae’r atalnodau fel petaent wedi eu dewis o het i’w rhoi ar ddiwedd llinellau mewn mannau. Ceir nifer o frychau cynganeddol yn y gyfrol, gan gynnwys llinellau sy’n rhy hir neu’n rhy fyr o sillaf, Cynghanedd Lusg mewn ail linell cwpled o gywydd, a chamacennu. O ddarllen yr awdl yn y gyfrol, sydd heb unrhyw wall cynganeddol, mae’n amlwg nad diffyg gallu’r awdur yw’r gwallau, ond diffyg gofal. Yn gyffredinol mae ôl brys ar y gyfrol, o du’r bardd ac o du’r wasg. Ceir brychau cysodi, gan gynnwys llinell gyntaf wythfed pennill cerdd ‘T. E. Nicholas’ yn dod yn rhydd oddi wrth y pennill hwnnw a mynd yn sownd wrth ddiwedd y seithfed pennill, ynghyd â llythrennau’n diflannu neu’n newid i lythrennau eraill. A oedd hast i’w chael yn barod ar gyfer ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe?

Clywais y Prifardd Mererid Hopwood yn dweud mai’r ffordd orau i geisio dod i adnabod bardd a deall ei ffordd o feddwl yw darllen cyfrol o’i gerddi o glawr i glawr. Os ydych yn un o’r rhai nad yw brychau fel y rhai a nodaf uchod yn tynnu oddi ar fwynhad y darllen, cewch yn y gyfrol hon oriau o foddhad wrth i chi ddod i adnabod rhyw dipyn un o wynebau ac enwau mwyaf cyfarwydd ein Heisteddfod Genedlaethol a sefydliadau Cristnogol ein cenedl – bardd cadarn ei ffydd a diffuant ei feddwl.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.