Y Gaer Fechan Olaf: Alan Llwyd

Argraffu

A lwyddodd unrhyw genedl arall i esgor ar sefydliad mor gyfareddol-ddiddorol â'r Eisteddfod Genedlaethol? Mae'n gwestiwn! Pwy all anghofio'r wefr a gafodd darllenwyr llyfrau Cymraeg pan ymddangosodd cyfrol Hywel Teifi Edwards, Gŵyl Gwalia, lle olrheinir hanes yr Eisteddfod rhwng 1858 ac 1868? Bellach dyma roi ei hanes rhwng 1937 a 1950 o dan y chwyddwydr gan Alan Llwyd nad yw ei wybodaeth am yr Eisteddfod ym mhob agwedd arni yn ail i neb.

Rhennir y gyfrol yn ddwy ran. Hynt a helynt amrywiol Eisteddfodau’r cyfnod dan sylw a geir yn y rhan gyntaf, a'r ymdrech arwrol, yn wyneb pob math o wrthwynebiad a sen, i sefydlu gŵyl uniaith Gymraeg yn llinyn arian trwy'r cyfan. Man cychwyn arwyddocaol yw Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937, oherwydd yno am y tro cyntaf y mabwysiadwyd Cyfansoddiad newydd yr Ŵyl, a'r Rheol Gymraeg wedi ei hymgorffori ynddo am y tro cyntaf. Canlyniad protest ar ran nifer o feirniaid yr Eisteddfod oedd y Rheol Gymraeg, wedi i’r pwyllgor gwaith lleol wahodd Arglwydd Londonderry, Llywydd y Weinyddiaeth Awyr, i lywyddu un o’r cyngherddau. Cwbl ddi-Gymraeg ydoedd ef, a phennaeth yr union weinyddiaeth a adeiladodd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ac a oedd felly’n anuniongyrchol gyfrifol am garchariad y Tri ar ddechrau blwyddyn Prifwyl Machynlleth. Dilynir yr helynt tra diddorol hwn yn fanwl fel y gwneir â hynt a helynt pob un o’r Eisteddfodau dilynol hyd at Eisteddfod Caerffili 1950 lle gwelwyd gweithredu’r rheol Gymraeg yn llawn am y tro cyntaf.

Ac na feddylier mai’r ochr lenyddol yn unig a goffeir gan awdur a gyflawnodd y gamp ddwbwl ddwywaith. Olrheinir hanes y ddrama a'r cyngherddau yn y Brifwyl, ac ymgiprys y corau mawr, rhoddir sylw i sylwadau llywyddion y dydd ac i ambell araith mewn seremoni agoriadol yr Eisteddfod ei hun neu’r Babell Gelf a Chrefft. Dyfynnir yn bwrpasol o erthyglau post-mortem ar y gwahanol wyliau mewn papurau newydd a chylchgronau, a brithir y cyfan â gwybodaeth, straeon, hanesion ac anecdotau a fydd yn fêl ar fysedd unrhyw un â rhithyn o ddiddordeb yn yr Ŵyl ryfeddol hon o’n heiddo.

Yn ail ran y gyfrol ceir crynodeb aeddfed a meistraidd o gynnyrch llenyddol y cyfnod Eisteddfodol dan sylw sy’n cynnwys mwy nag un gymhariaeth annisgwyl, ond hynod ddiddorol, rhwng rhai awdlau megis awdl Gwilym R Jones, ‘’Rwyn edrych dros y Bryniau Pell’ (Dinbych 1938) ac awdl Dewi Emrys, ‘Cymylau Amser’ (Bangor 1943), a hyd yn oed rhwng awdl foliant Gwilym R Tilsley i’r ‘Glöwr’ (Caerffili 1950) a phryddest J M Edwards, ‘Peiriannau’ (Hen Golwyn – Eisteddfod Radio – 1941).

Darllenais y gyfrol hon â mawr fwynhad, a chymeradwyaf hi’n llawen. Hyfryd yw deall fod dwy gyfrol arall o'r un natur ‘ar fin eu cwblhau’ a fydd yn ymwneud â’r blynyddoedd 1900-1918 a 1919-1936.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.