Cwmni - i Dafydd Arthur

Argraffu
Barrug oer dan loer ddi-lun – yn fendith
wrth fynd am y terfyn,
a dim ond ôl traed y dyn
anwylaf yn fy nilyn.