Achmed

Argraffu
Wedd Achmed ddim yn ffito miwn ffor’ hyn.
Wedd e’n cael ’i siâr o boeni’n yr ysgol, druan:
galw enwe,
whare tricie,
pelto cerrig weth.

Ond ’na fe,
Achmed wedd yr unig fachgen yn y shîr
wedd â dou drwyn.