Gormodiaeth

Argraffu
Gormod o fyw i Garma
geiriau doeth y drwg a’r da,
gormod o glecs ‘rôl secs-romp,
gormod o steddfod a stomp,
gormod o wherthin Garmon,
mwd a haul, gormod o hon,
gêr ‘mad’ lad! Gormod o liw!
gorodli gair a’i edliw,
gormod o bethau odiaeth,
anelu, gorsaethu saeth,
gorwneud, gor-ddweud geiriau ddoe,
chwydu i gachdy go' echdoe.

Gormod! Gormod o Gorma,
(dyna ddish nad yw yn dda)
gormod o’n siâr o whare
‘da’r genod drwg yn y dre,
gormod o blorod a blew,
gorbwdu, gyrru i bydew,
“Beth sy’n bod?” yn dod rhwng dau -
gordagu ar adegau!
Gormod o glod fagla was,
i’r merddwr ⠑y marddas,
gormod o holl ormodiaeth
cerddi sâl ar chwâl heb chwaeth,
gormod o rap, gorgrapio
tra’n sefyll yna fel llo,
gormod yw a gŵr mud wyf,
siaradwr shit sur ydwyf,
nytar sy'n ei gorwneud-hi
nytar hurt, na’n natur i,
Gormod ddaw â’r ig - digon!
O ofyn llai caf fyw’n llon…