Wedyn

Argraffu
Daw heb os, daw i bob un - hen awydd
I newid ei lecyn.
Ysywaeth, ni ddaeth i ddyn
Erioed ond oed â'i 'wedyn'.