Diolch am 'lais' John Morris-Jones

Argraffu
i'r Athro Gwyn Thomas, ar gael benthyg casét o John Morris-Jones, awdur 'Cerdd Dafod' yn llafarganu un o gywyddau Goronwy Owen, ar gyfer ei chwarae i aelodau Dosbarth Cynghanedd Bethel

Un nos Fercher arferol
i ni nawr sy'n ddi-droi'n ôl,
am i un llais mwyn ein llên
roi tro am barti'r awen
ym Methel; am i ieithwedd
ei Gymraeg mor hir ei hedd
ddeffro, ar gasét eto
y gân hŷn na'i ganu o.

A JMJ drwy'r lle llawn,
mae i'r wyddor amryddawn
drawiadau ac odlau gwell
na holl hanes 'run llinell;
y mae'r gair Cymraeg ei wedd
yng nghanol ei gynghanedd
ac ias lafar goslefu'n
rhes o feirdd rhyw oes a fu:

Alaw o gân Iolo Goch
yw hi sy'n golchi drosoch,
ynddi wylodd Cynddylan
o oes bell stafell o dân,
ac â loes hen Guto'r Glyn
oedodd i wrando wedyn;
yna, yn hoff wlad Ystrad Fflur
ymdawelodd o'i dolur,
ond y hi'r farwol Irfon
ym marw oer y Gymru hon.

Un noson, ein barddoniaeth
ynddi'i hun yn ddrama ddaeth
a'n nos Fercher arferol
yn ein hiaith yn ddi-droi'n ôl
am i ŵr, yn acen Môn,
eni cân ein hacenion.
Tra'n hiaith hardd a bardd yn bod,
ei ddweud ef fydd cerdd dafod.