Ar lan bedd

Argraffu
Tu hwnt i'r gwres dinesig mae enwau
mewn mynwent arunig
ar y maen yn chwarae mig;
oer yw geiriau ar gerrig.