Cywydd Hiraeth y Bardd

Argraffu
o wybod fod ei gariad dychmygol, y gantores Mariah Carey, wedi priodi

Eiddig fu dyn ers Addaf,
Nid wyf lon er hinon haf.
Ni ddaw Mai heb Mariah,
Ceulo nwyf fel calon ia.
O'th ddod yn briod wyf brudd
Yn erfyn am ail Forfudd.
Dihafal wrid fel yr haul,
Dy goesau hyd dy gesail.
Pryd sidan – gwedd y gwanwyn,
Nid ofer serch am ferch fwyn.
Swyn llais mwyn fel adar Mai,
A dau fryn yw dy fronnau.
Dy fêl wallt – eurallt araul,
Awen byd aur heb dy ail.
Enaid diddig, nid diddawn
A graddau llon gruddiau llawn,
Dy ddwy ael nid gwael eu gwedd,
Nid egwan, hoff dy agwedd,
Glwysbêr Mariah Carey
Dewis teg, Duwies wyt ti.