Menorca, Awst 2008

Argraffu
(gosodwyd tywelion St.Siôr, Blackburn Rovers, Barbie ayb i hawlio'r gwelyau haul gorau wrth ymyl y pwll)

Ar welyau eu gorwelion eu heulwen
a hawliant yn brydlon.
Eu holl haf gânt yno'n llon
yn deulu o dywelion.