7 awr

Argraffu

(Mae fy nghariad yn byw yn America ar hyn o bryd. Rydym wedi ein gwahanu gan saith awr o wahaniaeth amser).

O hyd, mae'n troi'n farwydos ar orwel
ac mor hir yw'r cyfnos,
saith awr sy' nawr yn aros
i'n huno ni dan un nos