Iwan

Argraffu

Mae rhyw leuad ryfedd uwch clychau Llanbadarn
sy’n gwmni o fath wrth fentro am dro;
rwy’n cerdded drwy’r fynwent rhwng eglwys a thafarn,
rwy’n cerdded drwy synau’r holl feddau clo.
Fan hyn lle bu Dafydd yn treulio’r offeren
yn sylwi ar ferched, yn gweithio cân,
yn gwasgaru holl lwch y ffyrdd hyd ei awen,
yn gweld adar, yn troi dychan yn dân.
Ond heno mae rhyw gar yn sgrialu heibio,
mae’r coedydd yn ddu a’r neon yn dew;
ni chlywaf un cywydd gan rai sydd yn rhuthro
a gêm i’w gwylio ar SKY yn y Llew.
Mae rhyw leuad ryfedd uwch clychau Llanbadarn
ar noson unig yng ngwres canol Mai;
mae’r byd wedi newid rhwng eglwys a thafarn
a ’nghrebwyll innau rhyw fymryn yn llai.
Mae cloch fyny fan’cw sy’n trydar ei melltith,
ac un arall, daerach, yn canu d’athrylith.