Gwreichion

Argraffu

Unwaith ar ddur yr einion
bu’r gof yn creu o’r haearn
eiriau.

Lluniodd eu holl enwau,
a’u seiniau’n tasgu’n sêr
o’i forthwylio cyson.

Enwau yno’n wynias.

Pob llythyren a’i lle,
pob berf a’i gweithred,
pob cytsain a’i chaledwch,
pob ansoddair yn eirias.

Tasgodd idiom a chystrawen
o’i ffwrnais fyglyd
a meginodd ein gramadeg
â’i anadl dyner.

Ffustiodd a ffustiodd
tan
i’w hystyr droi’n darian,

a’n holl iaith yno fel llafn
finiog,
fel gwydr.

Modrwyodd ein brawddegau
a’u gosod yn haul y bore
fel mwclis arian.

Haearn ar haearn oedd ein hiaith
a’i thinc yn gân hyd yr efail –
a’i chân fu’n gwreichioni.

**********

Ond daeth terfyn i’r sŵn taro,
a’r haf a sgubwyd o’r efail.

Ei thân a’i thinc yn fudan.

Ac oerwyd gwres y geiriau;
rhoddwyd aur eu hidiom
i rwdu

a rhoi’r marwor i araf
araf
farw.